Ailadrodd galwad am ddatganoli cyllideb Remploy wrth i'r Glymblaid gadarnhau cau
10/07/2012
Mae llefarydd Polisi Cymdeithasol Plaid Cymru yn San Steffan, Hywel Williams AS, wedi ailadrodd galwad ei blaid am ddatganoli Cyllideb Remploy mewn ymateb i gadarnhad y Gweinidog dros yr Anabl, Maria Miller, y bydd pum ffatri Remploy yn cau yng Nghymru.
Dywedodd Mr Williams fod datganiad y Gweinidog yn ein hatgoffa na ellir ymddiried ym mhleidiau Llundain i gynnig amddiffyniad a sefydlogrwydd i'r bobl mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Talodd deyrnged hefyd i'r mentrau hynod lwyddiannus ledled Cymru sy'n cynnig gwaith gwerthfawr i bobl anabl.
Dywedodd Mr Williams:
“Mae nifer o weithwyr wedi rhoi eu bywydau i weithio yn Remploy ac maent nawr yn wynebu diweithdra mewn ardaloedd o Gymru ble fo hynny eisoes yn broblem enfawr.
“Mae’r Gweinidog wedi galw Remploy yn ‘segregated employment’ ar sawl achlysur, yn hytrach na chydnabod ei fod yn waith sy’n derbyn cefnogaeth.
"Mae gennym nifer o fentrau hynod llwyddiannus yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi, megis Antur Waunfawr yn fy etholaeth. Maent wedi llwyddo am nifer o flynyddoedd i gynnig gwaith gwerthfawr a boddhaus i lawer o bobl, rhai ohonynt ag anableddau.
“Gallwn gyflawni llawer mewn datblygiad creadigol a gwerth chweil o fewn gwaith sy’n derbyn cefnogaeth yng Nghymru os yw’r cyfrifoldeb, ac yn bwysicach yr adnoddau, yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd.
"Mae datganiad y Gweinidog yn ein hatgoffa pam fod datganoli'r Gyllideb Remploy i Gymru yn hanfodol. Nid oedd ganddi hyd yn oed restr cyflawn o’r canolfannau oedd yn wynebu cau, gan adael gweithwyr mewn mannau megis Porth yn y tywyllwch dros eu dyfodol.
"Dylai’r Gweinidog hefyd gynnig ateb go iawn i’r honniadau fod y tȋm oedd yn asesu dyfodol y canolfannau Remploy wedi gwneud hynny dros y penwythnos. O ystyried faint o waith oedd i’w wneud, ni fyddai wedi bod yn bosib rhoi mwy na hanner awr o ystyriaeth i bob achos.
“Mae hyn yn sarhad i weithwyr triw ac ymroddedig.”


