Plaid Cymru yn beirniadu gwario gormodol y gwasanaeth iechyd
12/07/2012

Mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sydd yn beirniadu lefelau gwario o fewn y GIG, dywedodd llefarydd Cyllid Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones:
“Mae’r adroddiad yma yn dangos y cynllunio gwael fu i ddiwygiadau Llywodraeth Cymru. Rydym ni oll yn ymwybodol bod y GIG yn wynebu heriau arwyddocaol tros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, ond mae’r adroddiad yma yn dangos bod Llafur wedi methu â mynd i’r afael â’r broblem. Yr hyn y mae’r adroddiad yma yn ei ddangos unwaith eto yw bod angen i’r llywodraeth sefydlu rheolaethau ariannol priodol er mwyn sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario mewn modd effeithiol.”


