Plaid yn croesawu golau gwyrdd ar gyfer trydaneiddio
16/07/2012

Mae llefarydd Trafnidiaeth Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu cynlluniau i drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd, gan ddweud y bydd y buddsoddiad hir-ddisgwyliedig yn chwyldroi system drafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Mr Edwards:
“Mae trydaneiddio'r rhwydwaith cyfan y Cymoedd, yn cynnwys Abertawe, yn newyddion gwych, ac yn ganlyniad i’r seiliau a osodwyd gan Ieuan Wyn Jones pan oedd yn Weinidog Trafnidiaeth yn y Cynlluniad a’r gefnogaeth traws-bleidiol sydd gan y gwelliannau hyn.
“Er hynny, golyga hyn fod Cymru wedi cyraedd ei safle haeddianol, ac nid wedi ennill mantais mewn unrhyw ffordd.
“Mae Cymru wedi aros yn llawer rhy hir am gyhoeddiad prosiectau o’r fath ac nid yw Llundain erioed wedi cael rheswm da dros oedi.
“Bydd trydaneiddio yn gwneud ein rhwydwaith trafnidiaeth yn rhatach, gwyrddach a mwy effeithlon, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod y buddiannau hynny i’w gweld nid yn unig yn ne Cymru, ond yng ngorllewin Cymru, canolbarth Cymru a gogledd Cymru hefyd.
“Os gaiff Cymru ei siâr, £1.9bn, o’r £33bn fydd yn cael ei wario ar ‘High Speed 2’ yn Lloegr yna gallwn chwyldroi ein system drafnidiaeth yng Nghymru.”


