RSS NEWYDDION

Cynnydd mewn diweithdra yn groes i'r patrwm Prydeinig yn dangos y dylai Caerdydd gael grymoedd creu swyddi

18/07/2012

 Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi rhybuddio fod diweithdra yng Nghymru ymhell o gael ei ddatry gan y Ceidwadwyr yn Llundain neu Llafur yng Nghymru wrth i ffigyrau diweddaraf yr ONS ddangos cynnydd bychan rhwng Mawrth a Mai, yn groes i batrwm y DU.

Mae ffigyrau diweithdra Cymru yn parhau i fod yn 9%, o’i gymharu a chyfartaledd y DU o 8.1%, gyda 133,000 yn ddiwaith yn ffigyrau’r chwarter diwethaf, a chynydd o 2,000 ers ffigyrau Rhagfyr i Chwefror.

Dywedodd Mr Edwards, er gwaetha’r ffaith fod ffigyrau’r DU yn dangos gostyngiad bychan, mae adolygiad twf yr IMF o 0.8% i 0.2% yr wythnos hon yn dangos nad oes gan y Glymblaid unrhyw reolaeth dros gyfeiriad yr economi.

Ychwanegodd ei bod yn hen bryd i bwerau trethu dros yr economi Gymreig gael eu trosglwyddo o San Steffan i Gaerdydd, cynllun a gefnogwyd gan y pol ICM ar gyfer y Comisiwn Sidan yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Mr Edwards:

“Mae’r cynnydd bychan hwn mewn diweithdra Cymreig yn dangos parhad hunanfoddhad y Ceidwadwyr yn Llundain a Llafur yng Nghaerdydd wrth ddelio gyda’r economi.

“Mae’r Glymblaid yn honni eu bod yn rheoli’r economi’n effeithiol, ond mae pob ystadegyn yn awgrymu’r gwrthwyneb. Yr wythnos hon, adolygodd yr IMF ragolygon twf y DU ar gyfer eleni o 0.8% i 0.2% - y cwymp mwyaf mewn unrhyw wlad ddatblygedig – gan fygwth dyfodol golygon swyddi a buddsoddi.

“Yng Nghymru, cyfrifoldeb y llywodraeth Lafur yw’r sector breifat, ond mae graddfa diweithdra o 9%, ffigwr uwch na bron pob rhan arall o’r DU, yn dangos nad oes ganddynt ateb i’r broblem.

“Mae’r cynnydd o 133,000 mewn diweithdra Cymreig unwaith eto yn dangos Cymru yn llusgo y tu ol i weddill y DU ac yn profi na ellir ymddiried ym mhleidiau Llundain i sicrhau adferiad yr economi Gymreig.

“Fel y dangosodd y pol ICM ar gyfer y Comisiwn Sidan yn gynharach yr wythnos hon, mae pobl Cymru yn credu y gallwn wneud gwahaniaeth i’r economi os y cawn yr offer i wneud y gwaith yng Nghaerdydd, ond mae Llafur a Ceidwadwyr yn gyndyn o ddangos uchelgais dros Gymru a chymryd cyfrifoldeb dros y liferau creu swyddi hyn.

“Tra bod y pwerau hyn yn parhau i fod yn nwylo San Steffan, ni fydd buddianau Cymru byth yn cael blaenoriaeth a byddwn yn parhau i ddioddef o ganlyniad i’r llywodraeth ddi-glem yn Llundain.”

Tagiaueconomi