FIDEO: Cau ‘bwlch economaidd Offa’
19/07/2012
‘Os mai cyflawni hunanhyder diwylliannol oedd y flaenoriaeth ar gyfer y ganrif ddiwethaf, yna cyflawni hunanhyder economaidd yw'r nod ar gyfer yr 21ain Ganrif’ - dyna oedd neges arweinydd Plaid Cymru heddiw wrth iddi draddodi ei datganiad o uchelgais ar gyfer economi Cymru yn ystod ymweliad â chwmni Cymreig Sigma3 yn Llantrisant.
Defnyddiodd Ms Wood ei datganiad hefyd i gyhoeddi aelodaeth a chylch gwaith Comisiwn Economaidd newydd y blaid ynghyd â chyhoeddi ei adroddiad rhagarweiniol, Bwlch Offa, sy’n darparu dadansoddiad manwl o sefyllfa economaidd gyfredol Cymru.

Ymweliad ffatri Sigma 3
Bydd y Comisiwn, a gadeirir gan Adam Price ac Eurfyl ap Gwilym, hefyd yn cynnwys Alun Ffred Jones AC, Jonathan Edwards AS, Dafydd Wigley a’r cyn AC Janet Davies. Bydd ganddynt y dasg o ddatblygu cynigion cynhwysfawr ar gau’r bwlch mewn incymau cyfartalog rhwng Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, a gweddill yr UE, o fewn cenhedlaeth.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:
“Heddiw rydym yn gwneud datganiad clir o’n blaenoriaeth – bod Plaid Cymru yn cysylltu ei llwyddiant ei hun gyda llwyddiant economaidd y Genedl Gymreig. Os mai cyflawni hunanhyder diwylliannol oedd y flaenoriaeth ar gyfer y ganrif ddiwethaf, yna cyflawni hunanhyder economaidd yw’r nod ar gyfer hon.
“Dyna pam rydym yn gosod yn brif nod y dasg o gau’r bwlch mewn incymau cyfartalog rhwng Cymru a’r DU a gweddill yr UE o fewn cenhedlaeth.
“Dan arweinyddiaeth yr ysgolhaig o Harvard, Adam Price a’r economegydd Eurfyl ap Gwilym, bydd ein comisiwn newydd yn dwyn ynghyd ffigyrau amlwg o’r gymuned fusnes ac oddi mewn i Blaid Cymru i wireddu dyheadau economaidd Cymru. Mae’r comisiwn eisoes wedi cynhyrchu adroddiad cychwynol heddiw er mwyn datgan yn eglur beth yw’r heriau y mae’n rhaid i economi ein gwlad eu goresgyn.”
Gan wneud sylwadau ar Fwlch Offa, adroddiad cyntaf y comisiwn ar economi Cymru, dywedodd y Cyd-gadeirydd, Adam Price:
“Mae Bwlch Offa, adroddiad cyntaf y comisiwn yn ddeunydd darllen llym iawn. Mae’n ddadansoddiad difrifol o sut mae economi Cymru wedi dioddef tros y degawdau diwethaf oherwydd ei statws o fewn y DG. Y cam cyntaf o ran datrys unrhyw broblem yw sefydlu natur a maint hyn. Mae adroddiad cyntaf ein comisiwn yn gwneud hyn, gan gydnabod y realiti economaidd y mae Cymru yn ei hwynebu heddiw.
“Gyda lansio’r adroddiad hwn, rydym yn gwahodd pawb yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses hanfodol hon o ddarganfod gyda’n gilydd y syniadau a’r strategaethau a fydd yn cynnig gwell dyfodol economaidd ar gyfer ein gwlad. Ni ellir caniatáu unrhyw fonopoli ar syniadau da yn hyn o beth. Yn wir, dim ond drwy gyfuno’n deallusrwydd y gallwn ni obeithio dechrau ar y dasg o ddilyn cwrs gwahanol.


