Mae angen dechreuad newydd ar Ynys Môn, medd AC
31/07/2012
“Mae’r adroddiad diweddaraf gan Estyn yn un o restr hir o adroddiadau damniol ar berfformiad y Cyngor mewn blynyddoedd diweddar. Mae’r adroddiad hwn, unwaith eto, yn cyfeirio at ddiffygion yn arweinyddiaeth gorfforaethol a gweithredol y Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn ei gwneud hi’n glir fod y Cyngor wedi bod yn rhy araf yn ceisio gwelliannau ym mherfformiad ysgolion Ynys Môn”, meddai AC Ynys Môn Ieuan Wyn Jones.
“Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r effaith mae helbulon gwleidyddol y Cyngor wedi ei gael ar wasanaethau i’n hysgolion, gyda’r diffyg arweinyddiaeth gorfforaethol yn arwain at fethiant gan y cyngor i fynd i’r afael â’u hanghenion, ar lefelau cynradd ac uwchradd. Rydw i wedi bod yn bryderus ers peth amser am y ffordd y mae’r cyngor yn clustnodi arian ar gyfer ysgolion, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos nad oes digon o arian yn cael ei sianelu at ddysgu ‘rheng flaen’ yn y dosbarth. Mae ein plant a’n hathrawon yn haeddu gwell.
“Rydw i’n cefnogi’n llawn y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion hyn, gan gynnwys sefydlu Bwrdd Adfer i gydweithio gyda’r Comisiynwyr sydd eisoes wedi’u hapwyntio. Mae ein plant yn haeddu’r gwasanaeth addysg gorau y gallwn ei ddarparu iddynt, ac mae’r diffygion sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad hwn yn dangos nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd.
“Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor roi trefn ar eu hunain, ar lefel wleidyddol yn ogystal â chorfforaethol. Mae camau wedi cael eu cymryd i ddelio gyda’r materion corfforaethol, ond mae diffyg arweinyddiaeth wleidyddol ar y cyngor sydd yn angenrheidiol i ddelio gyda’r heriau mawr sy’n wynebu Ynys Môn. Mae’n rhaid i ni ddechrau cymryd cyfrifoldeb er mwyn rhoi trefn ar ein cyngor.
“Bydd gan Ynys Môn gyfle ym mis Mai y flwyddyn nesaf i bleidleisio dros ddechreuad newydd, ac am dîm o gynghorwyr a all fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol sy’n ein hwynebu. Gall dim byd fod yn bwysicach na rhoi’r dechrau gorau i’n plant ni a bydd darparu gwell safon o addysg yn un o brif thema Plaid Cymru ym Mai 2013.”


