RSS NEWYDDION

Plaid Cymru yn ymateb i adroddiad y GIG

31/07/2012

Mae AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi dweud, tra bod llawer agwedd o adroddiad blynyddol y GIG y dylid eu croesawu, yr erys meysydd pryder difrifol y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hwy.

Meddai Rhodri Glyn Thomas AC Plaid Cymru:

“Dylid croesawu agweddau o’r adroddiad hwn, megis y cwymp yn nifer yr achosion brys a dderbyniwyd i’r ysbyty, a’r nifer fu’n rhaid dychwelyd. Dylem longyfarch staff rheng-flaen gweithgar y GIG am y llwyddiannau hyn mewn hinsawdd eithriadol anodd.

“Fodd bynnag, trwy ddefnyddio datganiad i’r wasg yn amlygu’r llwyddiannau hyn fel cyfiawnhad dros ganoli gwasanaethau, nid yw Llywodraeth Cymru yn bod yn ddidwyll. Ymgais hollol amlwg yw hon gan Lywodraeth Cymru i berswadio’r cyhoedd am gasgliadau’r adroddiad cyn ei ryddhau.

 

“Nid yw’n syndod nad yw sbin hunan-foddhaus y llywodraeth yn dangos y darlun llawn, ac y mae llawer maes sy’n dal i achosi llawer o bryder. Yr hyn y methodd y llywodraeth ei amlygu yw’r triniaethau a ganslwyd, enghreifftiau o driniaeth wael, cau unedau, a’r dirywiad cyffredinol dros y flwyddyn a aeth heibio.”