RSS NEWYDDION

Plaid Cymru yn croesawu buddugoliaeth ‘hanesyddol’

03/08/2012

Arweinydd wrth ei bodd gydag ethol y Dr Ian Johnson

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw buddugoliaeth ddwbl mewn isetholiad i Blaid Cymru yn y Barri fel un ‘ryfeddol’ and ‘hanesyddol’.

Llwyddodd ymgeisydd buddugol Plaid Cymru, y Dr Ian Johnson, i drechu Llafur fu 22% ar y blaen yn etholiadau’r cyngor lleol ym mis Mai, a llwyddo yn etholiadau Sir Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri yn ward Buttrills yng nghanol y Barri.

Meddai Leanne Wood:

“Dyma fuddugoliaeth ryfeddol a hanesyddol i Blaid Cymru lle’r enillodd neges gadarnhaol y blaid o obaith a gweledigaeth am ddyfodol y Barri a Chymru bleidleisiau.

“Mae uchelgais Plaid Cymru dros ein heconomi, ein hamgylchedd a thros ein cymunedau wedi taro tant gyda phleidleiswyr mewn ardaloedd Llafur traddodiadol, megis canol y Barri, ac ar hyd a lled Cymru.

“Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn buddugoliaeth y Blaid yn Llanbedrgoch ac yn dangos fod Plaid Cymru yn rym gwirioneddol ym mhob cwr o Gymru.”

Ychwanegodd Cynghorydd Plaid Cymru, y Dr Ian Johnson:

“Ymgyrch leol a phoblogaidd oedd hon a dyfodd allan o ymrwymiadau tymor-hir Plaid Cymru i ofalu am fuddiannau pobl y Barri a’r Fro.

“Yr oedd y trigolion yn cydnabod y gwerthoedd y mae Plaid Cymru yn sefyll drostynt ac wedi fy nghefnogi oherwydd ein hymgyrch gadarnhaol a bywiog, sydd yn edrych at y dyfodol ac at wella’r Barri.

“Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cychwyn yn y Fro yfory, a chanmlwyddiant geni Gwynfor Evans y mis nesaf, mae hon yn gyfnod gwych i Blaid Cymru yn y Barri a’r Fro.”