RSS NEWYDDION

Plaid yn siomedig wrth i ddiwygio’r Arglwyddi gael ei wyrdroi gan Gynghrair rhwng Llafur a’r Torïaid

03/08/2012

Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn gryf i adroddiadau fod llywodraeth y DG ar fin rhoi’r gorau i’w cynlluniau i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi. Dywedodd yr arglwydd o Blaid Cymru, Dafydd Wigley, ei fod yn siomedig dros ben fod cyfle mor bwysig wedi ei ddifetha gan gynghrair ddiurddas o feincwyr cefn Llafur a Thorïaidd. Ychwanegodd Jonathan Edwards AS fod y tro pedol hwn yn ergyd bellach i hunaniaeth wleidyddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr arglwydd o Blaid Cymru, Dafydd Wigley:

“Mae’n hynod siomedig fod y cyfle hwn i beri diwygio democrataidd wedi ei ddinistrio gan gynghrair ddiurddas o feincwyr cefn Llafur a Thoriaidd. Os bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ildio mor rhwydd ar fater y diwygio hwn y mae cymaint o’i angen, bydd yn adlewyrchiad o lefel eu hymrwymiad i’r egwyddor bwysig hon.”

Ychwanegodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards:

“Hunan-les a dychwelyd i’r gorffennol sy’n gyrru gwleidyddiaeth San Steffan. I AS newydd, gall gwrando ar ddadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin fod fel byw mewn bydysawd arall. Enghraifft o hyn oedd ail ddarlleniad dadl diwygio’r Arglwyddi. Yn y ddadl honno, cafwyd rhesi o feincwyr cefn Llafur a Thorïaidd yn dadlau yn erbyn yr egwyddor sylfaenol y dylai’r sawl sy’n gwneud y cyfreithiau gael eu hethol gan y rhai y bydd y cyfreithiau hynny yn effeithio arnynt. Mae’n amlwg, er iddynt ymladd etholiad diwethaf San Steffan ar addewidion i ddiwygio’r Arglwyddi, nad oes gan yr un o dîm tag Llafur - Torïaidd rithyn o ddiddordeb mewn rhoi terfyn ar y trên grefi gwleidyddol hwn.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awr mewn sefyllfa lle mae eu hunaniaeth wleidyddol yn cael ei erydu’n llwyr o ganlyniad i fod yn rhan o’r glymblaid hon. Maent wedi ildio’u safbwynt ar ffioedd dysgu, wedi llwyddo i danseilio diwygio etholiadol a Thŷ’r Arglwyddi am genhedlaeth, ac yn fuan iawn, byddant yn cefnogi mesur sydd yn tanseilio hawliau sifil yn y ‘siarter busnesgwn’ arfaethedig. Ac i wneud pethau’n waeth, maent wedi uno y tu ôl i’r polisi economaidd trychinebus a gynlluniwyd gan y Torïaid.”