Mae’n amser adfer enw da Môn
14/08/2012
Plaid Cymru yn lansio ymgyrch 2013
Heddiw mae Plaid Cymru wedi lansio ei ymgyrch ar gyfer etholiadau llywodraeth leol Ynys Môn sy’n cael eu cynnal ym Mai flwyddyn nesaf.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC wrth lansio’r ymgyrch yn Sioe Môn, gyda’r slogan “Adfer Enw Da Môn”, mai Plaid yw’r unig blaid wleidyddol a all ddarparu tîm cryf i roi arweiniad cadarn i Ynys Môn. Dywedodd y byddai’r Blaid yn canolbwyntio ar roi sefydlogrwydd a thryloywder i’r Cyngor a chreu cyfleoedd i bobl ifanc i aros a gweithio ar yr ynys.

Dywedodd Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones;
“Mae’n hen bryd cael Cyngor sy’n rhoi pobl Môn yn gyntaf- Cyngor y gallwn fod yn falch ohono gan ei fod yn gwasanaethu hyd orau ei gallu yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Plaid yn barod i arwain ac i gymryd y cyfrifoldeb o adfer enw da Môn.
“Bydd ein tîm Plaid Cymru, ac ein hymgyrch, wedi’i wreiddio yng nghymunedau lleol Ynys Môn- gan adlewyrchu gwerthoedd pobl Môn, yn ogystal â’u huchelgais am economi cryfach a chymunedau gwydn.
“Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, rydym yn gwahodd pobl ar draws ye ynys i ymuno â ni a bod yn rhan o'r ymgyrch- i fod yn ymgeisydd yn etholiadau flwyddyn nesaf neu helpu yn eu cymunedau- rydym eisiau galluogi pawb ar yr ynys I fod yn rhan o'r ymgyrch.
Ychwanegodd Arweinydd grwp Plaid Cymru ar Gyngor Môn, Bob Parry;
“Yn ogystal â dod a sefydlogrwydd a thryloywder i’r Cyngor byddwn yn canolbwyntio ar greu cyfleodd i bobl ifanc. Mae dyfodol Ynys Môn- yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol- yn dibynnu ar ein gallu i sicrhau bod gan bobl ifanc y cyfle i fyw a gweithio ar yr ynys. Mae Plaid yn benderfynol o weithio gyda phobl Ynys Môn i sicrhau cyfleoedd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae rhaid i ni greu dyfodol cryf ar gyfer pobl yr ynys. Gyda’n gilydd, gyda help pobl Ynys Môn, mae Plaid yn barod i sicrhau bod gan y bobl Gyngor uchelgeisiol y gallent fod yn falch ohono unwaith eto.”


