RSS NEWYDDION

Arweinydd Plaid yn Amlinellu Cynlluniau i Roi Hwb i'r Economi yn y Flwyddyn Gyntaf o Lywodraethu

15/09/2012

Mae Leanne Wood wedi cynnig blas o'r trawsnewidiad economaidd y byddai Plaid Cymru'n ei greu yn nyddiau cyntaf Llywodraeth. 

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru mai prif ffocws ei phlaid dros y degawd nesaf yw i ddatblygu syniadau a rhoi polisiau ar waith i godi "Perfformiad economaidd Cymru i'r un lefe a gweddill y DU."

Ar hyn o bryd mae gan Gymru raddfa diweithdra o 8.6% o'i gymharu a lefel gweddill y DU sef 8%. Yng Nghymru mae'r GVA ('gross value added) - y mesur o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn yr ardal - yn ddim ond 74% o gyfartaledd y DU. 

Yn ei haraith gyntaf i'r gynhadledd flynyddol ers cael ei hethol yn arweinydd y blaid, amlinellodd Ms Wood dri polisi unchelgeisiol i weithio tuag at gyflawni cyfartaledd gyda gweddill y DU.  

Dywedodd wrth gydweithwyr y blaid a oedd wedi ymgasglu yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, y byddai Llywodraeth y Blaid yn medru cyflwyno: 

  • Cynllun newydd i uno sgiliau gorau y sectorau cyhoeddus a phreifat i wthio Del Newydd Gymreig er mwyn rhoi hwb i'r economi.  

  • Sefydlu cyfres newydd o sefydliadau ariannol i lenwi'r gwagle a adawyd gan amharodrwydd banciau Llundain i fenthyg i fusnesau newydd. 

  • Ceisio creu toriadau trethi ar gyfer cronfeydd pensiwn sy'n buddsoddi yng Nghymru.  

Dywedodd Ms Wood: "Mae'n amlwg iawn fod yr economi Gymreig yn tan-berfformio'n ddifrifol. Nid yw ein heconomi wedi datblygu'n llawn a dyma'r prif rwystr i'n cynydd fel cenedl.

"Nid oes rhaid i bethau fod fel hyn. Nid yw ein dirywiad, ein tlodi, yn anochel, nac erioed wedi bod. 

"Oherwydd yr holl resymau hyn rydym wedi datgan mai gwella perfformiad yr economi Gymreig i lefel gweddill y DU yw prif flaenoriaeth y blaid hon am y degawd nesaf."

Ychwanegodd: “Mae ein Comisiwn Economaidd yn edrych ar strategaeth gyflawn. Ond rwyf wedi gofyn i'r Comisiwn edrych yn benodol ar dair set o fesurau fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn eu rhoi ar waith: 

"Yn gyntaf, sefydlu cydweithfa newydd, 'Innovation and Enterprise Wales - I.E. Wales - IE dros Gymru - yn cyfuno sgiliau gorau y sectorau cyhoeddus a phreifat - er mwyn gwthio am Ddel Newydd Gymreig. 

"Mae'n amser ail-fywiogi, atgynhyrchu ac ail-greu catalydd newydd ar gyfer creadigrwydd mewn ffurf sy'n addas ar gyfer Cymru's 21fed ganrif.

“Yn ail, os na fydd banciau Llundain yn fodlon benthyg i fusnesau Cymreig, yna bydd angen i ni greu ein system ariannol ein hunain, fel y bydd mwy o'r arian a wneir yng Nghymru yn aros yng Nghymru. Mae gan Channel Four ei 'Bank of Dave' - nawr beth am gael 'Bank of Dai'. 

"Gadewch i ni ryddhau Cyllid Cymru iddo ddod yn fanc datblygiad go iawn, creu banc cyfanwerth ar gyfar y sector menter gymdeithasol, ac adeiladu rhwydwaith o undebau credyd busnes.

"Mae gan gronfeydd pensiwn y sector gyhoeddus yng Nghymru biliynau mewn asedau, cyfanswm o chwe biliwn, a does prin dim o hynny'n cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Does bosib y gallwn wneud yn well na hynny. 

"Fel rhan o'n argymhellion pellach i'r Comisiwn Sidan byddwn yn ceisio'r grym i gynnig toriadau treth - yn debyg i'r rhai a geir yng Nghanada - i'r cronfeydd pensiwn sy'n barod i fuddsoddi yn eu cymunedau eu hunain. Byddai buddsoddi 2 neu 3% asedau ein gweithwyr ein hunain yng Nghymru yn helpu i drawsneswid yr economi Gymreig tra'n peri dim risg o gwbl i enillion aelodau'r cynllun.

"Dyna flas o'r hyn y gallwn, ac y byddwn, yn ei wneud mewn Llywodraeth. Gallwn wneud pethau mawr.

"Gyda gwaith caled. A hunan-gred." Â