Gallai cyllido teg i Gymru greu swyddi a gwella gwasanaethau
23/10/2012
Ond gallai methiant gostio cannoedd o filoedd o bunnau i Gymru
Gallai cyllido teg greu swyddi a gwella gwasanaethau, meddai Plaid Cymru heddiw, ond gan rybuddio ar yr un pryd y byddai methiant i ddod i gytundeb effeithiol olygu y byddai Cymru ar ei cholled o ran cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn.
Mae disgwyl datganiad yr wythnos hon ar ganlyniad trafodaethau dwyochrog rhwng llywodraethau Cymru a’r DG ynghylch pwerau benthyca Llywodraeth Cymru, a’r fformiwla gyllido a ddefnyddir i benderfynu ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Plaid Cymru y buasai setliad cyllido teg i Gymru o’r trafodaethau hyn yn golygu cyflwyno gosod llawr interim i fformiwla Barnett ar lefel gredadwy, ac yna asesiad iawn seiliedig ar anghenion er mwyn pennu cyllido i Gymru, meddai Gweinidog Cysgodol y Blaid dros yr Economi, Alun Ffred Jones. Dywedodd hefyd fod pwerau benthyca yn hanfodol er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael y gallu i fuddsoddi i greu swyddi.
Meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones:
“Gallai cyllido teg i Gymru greu swyddi a gwella gwasanaethau ledled y wlad.
“Mae pawb yn cytuno fod Cymru wedi ei thangyllido yn sylweddol bob blwyddyn o ganlyniad i fformiwla Barnett sydd wedi colli pob hygrededd. Yn y tymor byr, buasai Llawr Barnett ar y lefel iawn yn cyflwyno setliad cyllido tecach i Gymru, a buasai pwerau benthyca yn gadael i ni fuddsoddi er mwyn tyfu’r economi.
“Ond rhaid i unrhyw gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a’r DG fod yn gam ystyrlon tuag at gyllido teg. Rhaid cyflwyno llawr Barnett ar unwaith, a’i osod ar lefel briodol fel na fydd Cymru ar ei cholled. Yna wedi hyn, dylid cyflwyno fformiwla seiliedig ar anghenion ar gyfer cyllido teg. Byddai unrhyw beth llai na setliad cyllido teg go-iawn a phwerau benthyca sylweddol yn gwneud cam a Chymru.
“Bu Plaid Cymru yn glir wrth ddweud fod ar Gymru angen yr arfau iawn i wneud y gwaith. Mae’n rhaid i Gymru gael y pwerau angenrheidiol i gyflwyno llwyddiant economaidd, ac yr ydym yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at gyhoeddiad Llywodraeth Cymru.”



