Mae system trethi busnes Cymru “o chwith”
23/10/2012
Plaid Cymru yn dweud fod angen rheolaeth Gymreig i unioni’r cam
Mae Plaid Cymru am ddatgan pam fod angen gweithredu i helpu busnesau bach a chanolig Cymreig i gystadlu. Yn ystod sesiwn y Cynulliad yfory, bydd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi yn galw am reolaeth Gymreig lawn dros drethi busnes yng Nghymru fel y gellir cyflwyno system o drethi busnes dwy-haen. Bydd y blaid hefyd yn ail-ddatgan ei chefnogaeth i well cynllun rhyddhad trethi i gwmnïau bychain a mentrau eraill i gefnogi canol trefi Cymru sy’n ei chael mor anodd.
Bydd y Gweinidog Cysgodol dros yr Economi, Alun Ffred Jones AC yn esbonio fod y rhan fwyaf o bobl a gyflogir yn y sector preifat yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan BBaCh. Fodd bynnag, gan Gymru y mae’r trethi drutaf yn y DG ar gyfer cwmnïau bach, tra bod archfarchnadoedd yn cael y trethi rhataf yn y DG. Bydd Plaid Cymru yn cynnig system o drethi busnes dwy-haen cyn etholiadau nesaf y Cynulliad, gan nodi ar yr un pryd na fyddai modd gwneud hyn heb ddatganoli trethi busnes i Gymru.
Meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones:
“Mae’n amlwg nad yw’n iawn i Gymru fod y lle drutaf yn y DG i fusnesau bach, a’r rhataf yn y DG i archfarchnadoedd. Mae’r system hon o chwith, a dyna pam y mae Plaid Cymru heddiw yn galw am reolaeth lawn dros drethi busnes fel y gallwn unioni’r cam hwn.
“Gwyddom fod busnesau bach yn ei chael yn anodd cystadlu gyda chwmnïau mwy, ac yr ydym wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ers misoedd i wneud popeth yn eu gallu i’w helpu i oroesi. Busnesau bach yw’r cyflogwr mwyaf sydd gennym yn y sector preifat yng Nghymru, felly mae’n hanfodol ein bod yn eu gwarchod. Trethi busnes is a gwell polisi caffael yw rhai yn unig o’r polisïau a gynigiwyd gan Blaid Cymru i helpu BbaCh i oroesi a ffynnu.
“Gwnaeth Plaid Cymru hi’n glir mai swyddi a’n heconomi yw ein prif flaenoriaeth. Y cam cyntaf tuag at gynnydd yma yw datganoli’r mecanweithiau all wneud gwir wahaniaeth i economi Cymru, a dyna pam ein bod yn galw am gymryd y cam synhwyrol hwn.”



