Plaid yn mynegi pryderon dros breifateddio'r gwasanaeth prawf
06/02/2013
Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru wedi defnyddio sesiwn Cwestiynau Cyfiawnder yn Senedd San Steffan i fynegi pryderon dros newidiadau arfaethedig i’r system gyfiawnder, yn enwedig cynllun i breifateiddio rhannau o’r gwasanaeth prawf ac ymarferoldeb rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Dywedodd Mr Llwyd fod bwriad y Llywodraeth i breifateiddio darpariaeth ar gyfer troseddwyr risg isel a chanolig yn ystrydebol o bolisi wedi ei wneud ar fympwy gydag ychydig iawn o waith meddwl y tu ol iddo.
Mynegodd siom gydag ymateb y Gweinidog gan ei annog i ailfeddwl y cynlluniau gwallus hyn.
Wrth siarad yn Llundain ar ol y ddadl, dywedodd Mr Llwyd:
“Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn bwriadu preifateddio darpariaeth ar gyfer troseddwyr risg isel a chanoli.
“Pan fo’r troseddwyr ar brawf yn gwrtho dilyn cyfarwyddiadau neu’n colli apwyntiad, mae criteria penodol yn amlinellu a ddylai hynny gael ei adrodd a hwythau eu hanfon yn ol i’r llys.
“Er gwaethaf y ffaith y bydd y troseddwr yn treulio’r mwyafrif o’i amser dan oruchwyliaeth ‘privateer’ di-brofiad, byddai’n rhaid i’r asesiad hwn gael ei wneud gan swyddog prawf cymwys gyda prin dim gwybodaeth o gefndir nac amgylchiadau’r troseddwr dan sylw.
“Does fawr o synnwyr yn perthyn i’r broses hon ac mae’n bygwth cyfyngu ar sgop gwaith hanfodol y swyddog prawf yn ogystal a thanseilio’r broses adfer yn ei chyfanrwydd.
“Ni gynigiodd ateb y Gweinidog fawr o gysur ac felly rwy’n ei annog i ailystyried y cynllun hwn sef y diweddaraf mewn rhes o newidiadau i’r system gyfiawnder sy’n enghreifftiau o bolisiau di-feddwl ac anymarferol.”


