Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru yn addo rhoi Cymru'n Gyntaf. Ydych chi gyda ni?

The Party of Wales promises to put Wales First. Are you with us?


Ewch i'r brif wefan / Continue to main website

Cymraeg English
RSS NEWYDDION

Plaid Cymru yn galw am drosglwyddo pwerau sylweddol i Gymru

25/02/2013

Dim oedi, dim amwysedd: tystiolaeth y Blaid i Silk yn dangos arweiniad

Mae Plaid Cymru wedi galw am drosglwyddo pwerau sylweddol i Lywodraeth Cymru heb oedi diangen yn eu tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd heddiw i Gomisiwn Silk ar gyfer eu hail adroddiad.

Yn y dystiolaeth, mae Plaid Cymru yn gwneud yr achos dros ddatganoli ystod eang o bwerau fydd yn gwella Cymru, yn gwneud i’r setliad datganoli weithio yn well, ei wneud yn fwy grymus, a rhoi mwy o bwerau yn nwylo pobl Cymru.

Gallwch ddarllen y dystiolaeth lawn yma.

Mae Plaid Cymru yn galw am bwerau sylweddol dros blismona a chyfiawnder troseddol, adnoddau naturiol ac ynni, Stad y Goron a thrafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith y rheilffyrdd, a darlledu. Dywed y blaid fod modd gwneud hyn yn ddi-oed heb deddfwriaeth newydd.

Er hyn, bydd angen deddfwriaeth newydd i symud at fodel pwerau a gedwir yn ôl tebyg i’r hyn sydd eisoes yn bodoli i’r Alban. Byddai hyn yn gwneud y setliad datganoli yn glir ac yn lleihai y disgwyliad o sialensiau cyfreithiol gan arwain at gwell atebolrwydd, tryloywder ac effeithlonrwydd.

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am bwerau dros ddarlledu, yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, trefniadau etholiadol a swyddogaethau chwilio am waith megis Canolfan Byd Gwaith. Aiff cyflwyniad y blaid yn ymlaen i bledio achos Gwasanaeth Cyhoeddus Cenedlaethol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Meddai llefarydd y blaid ar y cyfansoddiad, a chyn-arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones AC:

“Mae Plaid Cymru yn rhoi gerbron gynnig cynhwysfawr, rhesymol ac ymarferol i ddatblygu democratiaeth Gymreig. Credwn y bydd cael y pwerau hyn yng Nghymru yn gwneud i’r setliad datganoli weithio yn well a sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru.

“Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro byd am drosglwyddo pwerau dros gyfiawnder troseddol, ynni a darlledu i Lywodraeth Cymru. Mae o fudd i Gymru i benderfyniadau am hyn gael eu gwneud yng Nghymru, yn arbennig ar gyfer ffordd Gymreig o blismona a chyfiawnder, datblygu cynaliadwy amgylcheddol, a rhoi terfyn ar y diffyg democrataidd yn y cyfryngau Cymreig.

“Dylai pwerau eraill gael eu trosglwyddo am eu bod yn gweddu yn well gyda’r pwerau a arferir eisoes gan Lywodraeth Cymru. Mae pwerau dros Ganolfan Byd Gwaith a swyddogaethau chwilio am waith, er enghraifft, yn ffitio’n dda gyda phwerau economaidd Llywodraeth Cymru a chynigion yn adroddiad cyntaf Comisiwn Silk. Mae’n gwneud synnwyr hefyd i drosglwyddo’r Asiantaeth Safonau Bwyd, gan fod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am fwyd, ac y mae angen tacluso materion yn ymwneud a thrafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith rheilffyrdd.”

Meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd AS:

“Rhaid cael mwy o gysondeb yn y setliad datganoli. Dylai’r model pwerau a gedwir yn ôl sydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei fabwysiadu yng Nghymru i roi mwy o eglurder am lle mae’r pwerau, yn hytrach na’r system niwlog bresennol. Bydd hyn yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy effeithiol ac atebol.

“Nawr fod Cymru yn gwneud ei chyfreithiau ei hun, mae angen amlwg am awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig i adlewyrchu hyn, a dylai hyn gael ei gyflwyno ar fyrder, a’i ddilyn gan bwerau plismona Cymreig a phwerau cyfiawnder troseddol. Mae’r pwerau hyn gan yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn achos, Gogledd Iwerddon, yn ddiweddar iawn y trosglwyddwyd y rhain - a gwnaed hynny yn gyflym heb fawr ddim problemau. Dylai’r costau a ddaw i ran llywodraeth y DG ar gyfiawnder gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Yn yr Alban, mae costau cyfiawnder y pen yn is nac yng Nghymru a Lloegr, sy’n dangos nid yn unig y gall system ddatganoledig fod yn iawn, ond yn rhatach hefyd.

“Gan nad oes rheswm dros oedi’r cynigion hyn, dylem gael Deddf Llywodraeth Cymru cyn gynted ag sy’n ymarferol fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddefnyddio’r pwerau hyn er lles pobl Cymru.”