RSS NEWYDDION

Newyddion

11/05/2011  Rhowch ddiwedd ar y duedd at Llafur yn y Cynulliad - AS y Blaid
Rhowch ddiwedd ar y duedd at Llafur yn y Cynulliad - AS y Blaid

Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru heddiw wedi herio llywodraeth y DG i newid y modd yr etholir aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darllena fwy...

05/05/2011  Pleidleisia heddiw! Gorsafoedd ar agor tan 10pm heno!
Pleidleisia heddiw! Gorsafoedd ar agor tan 10pm heno!

Gorsafoedd ar agor tan 10pm heno! Etholiad Cymru heddiw yw eich cyfle i helpu newid ein cenedl er gwell.  Yn yr amseroedd heriol hyn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol mewn llywodraeth, nid mwy o’r un fath gan y lleill.

Darllena fwy...

03/05/2011  Pleidleisiwch i’r Blaid am 50,000 swydd ar ddydd Iau
Pleidleisiwch i’r Blaid am 50,000 swydd ar ddydd Iau

Plaid Cymru yn unig sydd â chynllun i greu miloedd o swyddi ac adeiladu economi ein cenedl Bydd Plaid Cymru yn treulio dydd Mawrth olaf yr ymgyrch yn amlygu eu cynllun uchelgeisiol Adeiladu i Gymru i greu 50,000 o swyddi newydd ledled y genedl trwy fuddsoddi mewn rhaglenni i adeiladu ysgolion, ysbytai a seilwaith hanfodol.

Darllena fwy...

01/05/2011  “Rhaid i hen wlad fy nhadau hefyd fod yn wlad newydd ein plant”
“Rhaid i hen wlad fy nhadau hefyd fod yn wlad newydd ein plant”

Yn wythnos olaf ymgyrch Etholiad Cyffredinol Cymru, mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi sôn am ei benderfyniad i drawsnewid Cymru er lles y cenedlaethau i ddod. Neges Mr Jones oedd bod yn rhaid i hen wlad fy nhadau hefyd ddod yn wlad newydd ein plant - lle mae gobeithion ein pobl ifanc am y dyfodol yn ganolbwynt llywodraeth nesaf Cymru.

Darllena fwy...

28/04/2011  “Gobeithion cenhedlaeth a llwyddiant yr economi yn y dyfodol yn dibynnu ar gael addysg yn iawn” – arweinydd y Blaid
“Gobeithion cenhedlaeth a llwyddiant yr economi yn y dyfodol yn dibynnu ar gael addysg yn iawn” – arweinydd y Blaid

Gydag wythnos yn unig i fynd tan ddiwrnod y bleidlais, mae arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi dweud fod etholiad cenedlaethol Cymru ddydd Iau nesaf yn rhoi cyfle i Gymru drawsnewid gobeithion cenhedlaeth o bobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael eu siomi gan y system addysg.

Darllena fwy...

27/04/2011  Plaid’s Bonws busnes y Blaid i hybu swyddi
Plaid’s Bonws busnes y Blaid i hybu swyddi

Mae Plaid Cymru heddiw wedi ymweld â Distyllfa Chwisgi Penderyn, un o straeon llwyddiant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, i amlygu cynlluniau’r Blaid i gefnogi twf a datblygiad economaidd busnesau Cymreig. Mae’r blaid wedi amlinellu rhai o’i chynigion allweddol i helpu i amddiffyn swyddi sy’n bod eisoes a chreu rhai newydd trwy ganolbwyntio ar anghenion busnesau bychain a chanolig.

Darllena fwy...

22/04/2011  Plaid Cymru - Uchelgeisiol dros ein busnesau bach
Plaid Cymru - Uchelgeisiol dros ein busnesau bach

Mae Plaid Cymru yn uchelgeisiol dros fusnesau bach Cymru ac eisiau gweld amgylchedd economaidd sy’n caniatáu iddynt dyfu a ffynnu. Dyna oedd neges ymgeisydd y Blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nerys Evans, a hithau’n ymweld â ‘fferm siocled’ yn Sir Gaerfyrddin dros y Pasg. 

Darllena fwy...

21/04/2011  Yn eich sinema Leol!
Yn eich sinema Leol!

Gan brofi ei bod yn parhau i arloesi gyda thechnegau ymgyrchu newydd, bydd Plaid Cymru yr wythnos hon yn cyflwyno ymgyrch hysbysebu mewn sinemâu ledled Cymru cyn etholiad cyffredinol Cymru ar Fai 5.

Darllena fwy...

19/04/2011  Cadw golwg er eich llygaid: Ymgeisydd y Blaid yn Arfon yn nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid
Cadw golwg er eich llygaid: Ymgeisydd y Blaid yn Arfon yn nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid

Fel rhan o weithgareddau i nodi Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid, ymwelodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon Alun Ffred Jones heddiw (Mawrth) â phractis otometregol lleol ym Mangor.

Darllena fwy...

19/04/2011  Plaid Cymru – Dros well derbyniad ffonau symudol
Plaid Cymru – Dros well derbyniad ffonau symudol

Arweinydd y Blaid yn amlygu polisi ‘Cysylltu Cymru’ ar ail ddiwrnod ei daith Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn defnyddio ail ddiwrnod (Mawrth 19 Ebrill) ei daith o gwmpas Cymru i ganolbwyntio ar ymrwymiad y blaid i Gysylltu Cymru.  Wrth iddo deithio o Gaerdydd i Geredigion, bydd Ieuan Wyn Jones yn tynnu sylw at y modd y bydd Plaid Cymru yn gwella signal ffonau symudol, wifi a derbyniad band eang ar draws Cymru gyfan. 

Darllena fwy...

18/04/2011  Plaid yn cefnogi galw’r Senedd yn ôl ar fater Libya
Plaid yn cefnogi galw’r Senedd yn ôl ar fater Libya

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Elfyn Llwyd AS heddiw wedi siarad i gefnogi galw'r Senedd yn ôl oherwydd natur gyfnewidiol ymwneud y DG â Libya.

Darllena fwy...

16/04/2011  Llafur yn gwrthod cau’r drws ar gynllun newydd i gau ysbytai
Llafur yn gwrthod cau’r drws ar gynllun newydd i gau ysbytai

Mae Plaid Cymru wedi condemnio’r blaid Lafur am wrthod ymrwymo i gadw Ysbytai Dosbarth Cyffredinol fel Llandudno yn eu maniffesto am 2011. Mae’r bwlch amlwg hwn yn nogfen Llafur yn dilyn eu cynlluniau cyn etholiad 2007 i gau ac israddio ysbytai ledled Cymru -  gan gynnwys ysbyty Llandudno.  Gwrthwynebwyd y cynllun yn ffyrnig gan Blaid Cymru a’i hataliodd mewn llywodraeth.

Darllena fwy...

15/04/2011  Ceidwadwyr yn camarwain busnesau dros ryddhad trethi
Ceidwadwyr yn camarwain busnesau dros ryddhad trethi

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr yng Nghymru o gamarwain y gymuned fusnes am eu haddewid ar drethi busnes. Mae'r Toriaid yn hawlio y byddant yn dileu trethi busnes yn gyfan gwbl, ac eto mae eu cyllideb fel gwrthblaid yn dangos y byddai gostyngiadau sylweddol ym mhob adran, gan gynnhwys cyllideb yrb economi, petaent yn cael eu ffordd.

Darllena fwy...

15/04/2011  Plaid – dros well gwasanaeth rheilffyrdd
Plaid – dros well gwasanaeth rheilffyrdd

Arweinydd Plaid Cymru yn amlinellu addewid y Blaid i gysylltu Cymru Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, heddiw wedi amlinellu addewid ei blaid i gysylltu Cymru gyda sustem drafnidiaeth fodern ar ymweliad â Chwm Cynon.

Darllena fwy...

15/04/2011  Ymateb Plaid Cymru i lansio Maniffesto'r Ceidwadwyr
Ymateb Plaid Cymru i lansio Maniffesto'r Ceidwadwyr

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i lansio maniffesto'r Ceidwadwyr.

Darllena fwy...

15/04/2011  Llafur yn gwadu cyflwr y gwasanaeth ambiwlans
Llafur yn gwadu cyflwr y gwasanaeth ambiwlans

Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd wedi cyhuddo Llafur o wadu’r problemau sy’n wynebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi i’w maniffesto honni fod y gwasanaeth yn ‘gyson yn cyrraedd targedau.’ Dywedodd Helen Mary Jones, sy’n sefyll i’w hail-ethol yn etholaeth Llanelli, ei bod yn anodd gweld sut y bydd Llafur am ddechrau gwella safonau yn GIG Cymru os ydynt yn gwrthod cydnabod y problemau.

Darllena fwy...

15/04/2011  DemRhyddion yn bradychu S4C
DemRhyddion yn bradychu S4C

Wrth siarad yn Aberystwyth heddiw i gefnogi Elin Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, mae Llywydd Anrhydeddus y Blaid, Dafydd Wigley wedi lladd ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan am "frad hollol warthus ar fater S4C".

Darllena fwy...

14/04/2011  Ysgolion mewn perygl dan gynlluniau addysg Llafur
Ysgolion mewn perygl dan gynlluniau addysg Llafur

Anogwyd Llafur i ddileu eu polisi o fygwth cau ysgolion sy'n tanberfformio, ac yn hytrach fynd i'r afael â'r problemau sydd wrth wraidd system addysg Cymru. Mewn araith ym mis Chwefror, dywedodd llefarydd Llafur ar addysg, Leighton Andrews , 'lle bo ysgol yn methu, a minnau'n tybied nad oes modd adfer y sefyllfa, fe wnaf ei chau.' Mae Plaid Cymru, sydd wedi ymrwymo i wneud addysg yn flaenoriaeth am y ddegawd nesaf yn llywodraeth Cymru, wedi gwrthod yr agwedd hon gan ddweud nad ydynt yn credu y dylid ystyried unrhyw blentyn nac ysgol fod y tu hwnt i help.

Darllena fwy...

14/04/2011  Plaid Cymru yn herio Llafur i gyfatebu uchelgais ar gyllid teg
Plaid Cymru yn herio Llafur i gyfatebu uchelgais ar gyllid teg

Mae Plaid Cymru wedi galw ar brif lefarydd Llafur ar yr economi dros Gymru gyfateb i’w huchelgais hwy. Galwodd Plaid Cymru ar Ed Balls i wneud yn glir yn union beth yw safbwynt ei blaid ar gyllid teg i Gymru, yn benodol ar ddiwygio fformiwla Barnett yn gyfan gwbl.

Darllena fwy...

14/04/2011  Ymateb Plaid Cymru i lawnsio Maniffesto Llafur
Ymateb Plaid Cymru i lawnsio Maniffesto Llafur

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i lawnsio maniffesto Llafur.

Darllena fwy...


Unfed - Blaenorol - Tudalen 43 o 65 - Nesaf - Olaf