Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English

Cymru Glyfrach 

Simon Thomas AC, Gweinidog Cysgodol Addysg, Sgiliau a'r Iaith Gymraeg 

Dylai holl ddinasyddion Cymru gael mynediad cyfartal a chyfle i gael yr addysg orau,  y profiadau diwylliannol a chwaraeon ehangaf a'r hawl i naill ai ddysgu neu ddefnyddio'r iaith Gymraeg o fewn eu cymuned.

Dylai fod gan Gymru system addysg sydd ymhlith y gorau yn yr UE. Y nod ddylai fod i alluogi'r plentyn unigol i gyflawni ei botensial beth bynnag fo’i gefndir economaidd a’i gyfoethogi gydag ymdeimlad o falchder dinesig; gwybodaeth ddofn o'i orffennol a'i baratoi gyda'r hyn sydd ei angen i siapio ei ddyfodol ei hunan.

Fel Gweinidog Addysg, fy mlaenoriaethau fydd :

  • Torri'r cysylltiad rhwng tlodi/amddifadedd a chanlyniadau addysgol
  • Codi safonau yn y sgiliau sylfaenol megis llythrennedd, rhifedd, TG
  • Cefnogi a rhannu rhagoriaeth mewn addysgu a chanfod a chael gwared ar berfformiad gwael
  • Galluogi disgyblion i lwyddo’n addysgol ac o ran lles yn ôl eu galluoedd a'u hanghenion
  • Sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael eu haddysgu yn y Gymraeg yn ystod y cyfnod sylfaen ac yn cael eu haddysgu trwy drochi, os ydynt yn ail iaith, ar ôl hynny.

Byddwn yn dysgu o'r enghreifftiau gorau o arfer rhyngwladol gan sicrhau bod Cymru'n agored bob amser i arloesedd ac yn gwrthod patrymau sefydlog a diddordebau arbennig.

Byddwnyn cadw at egwyddorion ac ethos y cyfnod sylfaen.

Bydd un cwricwlwm cenedlaethol yn darparu ar gyfer dysgu craidd tra'n galluogi mwy o hyblygrwydd i ysgolion a gweithwyr proffesiynol i arloesi, e.e. dysgu awyr agored, trydedd iaith dramor, technoleg gwybodaeth.

Byddwn yn parchu proffesiynoldeb athrawon a chynorthwywyr, yn disgwyl datblygiad proffesiynol parhaus ac yn gwobrwyo arferion da gyda llai o fiwrocratiaeth.

Dylai arholiadau gael eu rheoleiddio yn annibynnol, gyda gostyngiad yn yr amrywiaeth ddryslyd bresennol o arholiadau y caniateir i ddisgyblion eu sefyll.

Mae'r portffolio yr wyf yn gyfrifol amdano hefyd yn cynnwys Sgiliau.

Dylai fod yna aliniad agosach rhwng sgiliau israddedig a sgiliau galwedigaethol, yn enwedig ar y lefel uwch. Y nod ddylai fod cydraddoldeb o ran dewis. Mae angen sefydliadau cryf, hyfyw, arnom - gan gynnwys o leiaf un Brifysgol Gymreig yn 100 uchaf y byd. Rhaid blaenoriaethu adnoddau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru mewn sefydliadau Cymreig. Mae hyn eisoes yn wir am addysg bellach a rhaid ymestyn hyn i addysg uwch.

Rhaid i Gymru fod yn fan arloesedd ar gyfer addysg uwch, yn treialu syniadau fel cyrsiau gradd dwy flynedd (yn enwedig i rai sy'n byw gartref.)

Ein gweledigaeth yw i arfogi ein holl bobl ifanc â'r lefel uchaf o sgiliau sy'n bosibl, boed hynny mewn addysg bellach neu addysg uwch ac i sicrhau bod pob person ifanc yn aros mewn addysg tan 18 oed ( boed hynny mewn ysgol, yn y coleg, ar gynllun prentisiaethau, neu’n derbyn hyfforddiant mewn gwaith.)

Ac o ran yr Iaith Gymraeg, byddwn yn adeiladu ar egwyddorion ein Mesur Iaith Gymraeg - bod angen i safonau ddarparu hawliau. Mae’r sector preifat yn hanfodol i ddarparu'r ystod lawn o ddwyieithrwydd yng Nghymru. Bydd disgwyl i'r sector cyhoeddus fodloni'r safonau, yn yr un modd ag y bydd y sector preifat sy’n darparu unrhyw agwedd o gytundeb cyhoeddus neu fudd cyhoddus. Bydd y sector masnachol llawn yn cael ei annog a’i hwyluso i ddatblygu gwasanaethau yn Gymraeg.

I Gymru fod ar ei orau, mae angen system addysg o safon byd arnom, sy'n darparu’r sgiliau y mae ein pobl eu hangen ar gyfer swyddi sgiliau uchel, sy’n talu'n dda.

Gallwch ddarllen am ein cynlluniau ar gyfer darparu addysg lawn-amser o ansawdd uchel i bob plentyn o dair oed ymlaen yn ein papur ymgynghoriad

 

TagiauAddysg