Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English

Saeson dros y Blaid

 

Mae Tony Greenwood yn hannu o ogledd Llundain. Mae'n pleidleisio dros Blaid Cymru.

 

Cafodd Peter Ryder ei eni yn Middlesbrough a symudodd i Gymru o Hull. 
Mae'n pleidleisio dros Blaid Cymru.

 

Ganwyd Graham Wild yn Oldham, bu'n byw yn Birmingham, a nawr yn byw yn Llanddulas. 
Mae'n pleidleisio dros Blaid Cymru.

 

Symudodd John McCabe, cyn-gynghorydd sir Glannau Mersi, i Gymru o Lerpwl .
Mae'n pleidleisio dros Blaid Cymru.

 

Sais yng Nghymru

Pam fod rhai'n mynnu dweud bod credu mewn annibyniaeth yn golygu eich bod yn wrth-Seisnig?

Erthygl gan ohebtydd teithio Mike Parker i wefan GallCymru.com.

Ceisiwch gofio etholiadau’r Cynulliad yn 2007. Beth fuasech chi wedi dysgu amdanynt petaech wedi dibynnu ar gynnyrch y wasg a’r cyfryngau Llundeinig? Y nesaf peth i ddim, oherwydd yr oedd y “gystadleuaeth a anghofiwyd” (fel y disgrifiodd y Guardian hi, gan fethu ar yr un pryd â gwneud dim, bron, i’w dad-anghofio) yn bendant yn y cefn o ran pwysigrwydd o’u cymharu ag etholiadau Senedd yr Alban a’r etholiadau lleol yn Lloegr.

Bu cyfryngau Llundain yn dilyn yr etholiad yn yr Alban yn arbennig yn frwd iawn, ond am un rheswm yn unig. Yr oedd yr SNP ymhell ar y blaen yn y polau piniwn, a llwyddasant (trwy drwch blewyn) i gadw ar y blaen a ffurfio llywodraeth leiafrifol yn Holyrood. I’r cyfryngau Prydeinig (h.y. Seisnig) yr oedd hyn yn arwain at ryfel. Dyma nhw’n taro’r botwm niwclear, yn llenwi eu tudalennau a’r tonfeddi gyda phroffwydoliaethau brawychus am sut y byddai hyn yn chwalu Prydain, yn difetha consensws, yn gosod yr Albanwyr yn erbyn y Saeson mewn modd nas gwelwyd ers Bannockburn. Fel tipyn o anorac yn hyn o beth, darllenais yr ymdriniaeth yn helaeth, ac ni alla’i gofio neb yn mynegi safbwynt cadarnhaol am sut y gallai’r sefyllfa fod yn unrhyw beth ond trychineb oedd ar y gorwel.

Dyma’r man cychwyn o hyd i’r ddadl am y math o setliad gwleidyddol y dylai gwledydd y DG fod yn ei geisio yn yr unfed ganrif ar hugain. Cymerir yn ganiataol fod bod o blaid annibyniaeth i’r Alban neu Gymru o raid yn golygu bod yn llafar, hyd yn oed yn dreisgar, wrth-Seisnig. Rydych yn caru’r naill gymaint, mae’n rhaid i chi gasáu’r llall o waelod eich calon. Yr unig ffordd y mae’n cael ei gyflwyno byth yw fel brwydr, du yn erbyn gwyn heb arlliw o lwyd, ac y mae’n anghymwynas enfawr â ni oll. Mae’n hollol bosibl teimlo’n hoff eithriadol o holl wledydd a diwylliannau ein hynysoedd, a bod eisiau iddynt oll ffynnu, heb orfod credu mai anacroniaeth y DG yw’r unig ffordd i gyrraedd hynny.

Oherwydd anacroniaeth ydyw. Crëwyd Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr ac Iwerddon yn fwriadol ym 1801 fel cynnyrch a chyfrwng yr oes ddiwydiannol, filwrol a threfedigaethol, swyddogaethau a gyflawnodd yn ddiwyro byth ers hynny. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, dylem fod yn ddigon dewr i gydnabod fod yr oes honno wedi tynnu i’w therfyn, a cheisio darganfod y patrwm gorau ar gyfer ein dyfodol oll. Ar y cyfan, rwy’n credu’n gryf mai’r dewis gorau fyddai i Gymru, Lloegr a’r Alban fynd eu gwahanol ffyrdd. Yn union fel na ddylid carcharu pobl yn ddiangen, felly hefyd ni ddylid carcharu cenhedloedd naturiol. Ac y mae pob un o’r tair yn genhedloedd naturiol, a ddiffiniwyd yn gyson – yn ddaearyddol a diwylliannol – ers dros fil a hanner o flynyddoedd. Allwch chi ddim bod yn llawer mwy gwreiddiedig na hynny.

Llynedd, fe gyhoeddais lyfr – Neighbours From Hell? – am agweddau hanesyddol y Saeson tuag at Gymru a’r Cymry. Trwy ymchwilio ar ei gyfer dros bedair blynedd, cefais f’argyhoeddi fwyfwy fod Cymru yn haeddu rheoli ei thynged ei hun. Mae yn y llyfr lawer o’r ensyniadau a’r cyfeiriadau sarhaus amlycaf a wnaed dros y canrifoedd, ond, wrth gwrs, fe allech ddod o hyd i’r rheiny yn asesiad unrhyw ddiwylliant o’i chymdogion agosaf. Yr hyn oedd yn fwy dadlennol o lawer i mi oedd y patrymau o ddiffyg dealltwriaeth diwylliannol a gwleidyddol oedd wedi llifo i lawr dros yr oesoedd heb newid fawr ddim dros yn agos at fil o flynyddoedd. Yr oeddent oll yn deillio o’r un gwreiddyn, sef anallu llwyr y sefydliad Seisnig i ddeall treftadaeth, dyheadau a gwahaniaethau’r Cymry. Mae bod dan rym pobl, waeth pa mor dda eu bwriadau, nad ydynt erioed wedi eich deall ac na wnânt erioed, yn enghraifft o ben draw eithaf bod yn ddiwylliannol a gwleidyddol ddi-rym. Nid yw chwaith o unrhyw les i’r grym llywodraethol, gan nad yw’r sefyllfa’n ddim iddynt hwy ond niwsans sy’n tynnu eu sylw oddi wrth eu prif nod.

Wrth gwrs, roedd bod yn Sais yng Nghymru yn dweud y fath bethau yn rhwym o ddenu’r difenwi gwyllt disgwyliedig, gan unddiwyllianwyr ar rai gwefannau go anghynnes yn fy ngalw’n fradwr i ‘ngwlad fy hun, i lythyr mewn priflythrennau oedd yn bygwth pob math o bethau. Unwaith eto, pegynnu oedd y brif nodwedd – allai’r un o’r bytheirwyr hyn hyd yn oed amgyffred bod fy safbwynt yn deillio o gariad dwf at fy mamwlad (Lloegr) yn ogystal ag at fy ngwlad fabwysiedig (Cymru). Wir, does dim rhaid iddi fod yn frwydr hyd at angau, lle mae’n rhaid i’r naill ochr guro’r llall yn rhacs. Mae’r crynhoad gorau, yn fy marn i, wedi dod gan Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, a ddywedodd am ddyhead ei wlad am annibyniaeth, y gallai “Lloegr golli lletywr surbwch ac ennill cymydog da”. Byddai ail-lunio’r berthynas rhwng ein gwledydd yn gallu bod o les aruthrol i ni oll, gan gynnwys y Saeson.

Mike Parker