Canolfan Weithredu: Sôn am swyddi

Dros yr wythnosau nesaf, rydym am ddweud wrth bobl ledled y genedl am ein gweledigaeth i Gymru, sut yr ydym yn gweithio i greu mwy o swyddi, helpu ein busnesau bach ac adeiladu ein heconomi. Gallwch chi hefyd ymuno gyda chefnogwyr ar hyd a lled y wlad i ddweud wrth bobl yn eich cylch am gynlluniau'r Blaid. Mae gan ein canolfan weithredu isod bopeth sydd arnoch ei angen i fynd ati!

 

1. Dosbarthwch daflenni yn eich stryd

Llawrlwythwch ein taflen Sôn am Swyddi ddiweddaraf, ei hargraffu a'i dosbarthu yn eich stryd neu eich ardal. Gyda'n gilydd, a chyda'ch help chi, medrwn ddweud wrth bobl ym mhob cymuned ym mhob cwr o'n cenedl am gynllun cadarnhaol y Blaid i greu swyddi a helpu ein busnesau trwy'r amseroedd anodd hyn. 
 

forget_politics_-_lets_talk_about_jobs_EN.doc

forget_politics_-_lets_talk_about_jobs_CY.doc

 

2. Ysgrifennwch lythyr at eich papur lleol

Dywedwch wrth ddarllenwyr eich papur lleol amweledigaeth uchelgeisiol y Blaid i hybu'r economi. Dyma batrwm o lythyr y gallwch ei anfon at eich papur lleol:

 

 

Forget Politics, Let's talk about jobs

Dear Editor

137,000 people in Wales are out of work and everyone agrees that the situation is going to get worse. Plaid Cymru will not sit on our hands and let the Conservative and Lib Dem cuts take their toll in Wales in the worst possible way.  It’s time to put Wales first.
 
This is why Plaid is campaigning to see the Labour Welsh government prioritising jobs and helping our local businesses in these tough times by Investing in building projects which will help our construction industry and giving greater help to our small, local businesses.

We believe that despite the cuts, more can be done to protect jobs and communities.Plaid has a plan that really could make a difference to you, your family and your community. We would urge you to join us in saying that now is the time to make protecting jobs an absolute priority. Like you, we want a better future for Wales. 

Yours

NAME

 

3. Dywedwch wrth eich busnesau lleol

Dywedwch wrth fusnesau lleol yn eich ardal beth mae'r Blaid eisiau wneud drostynt.  Llawrlwythwch ein taflen Trafod Busnes, ei hargraffu a'i dosbarthu i siopau a busnesau yn eich ardal. Helpwch ni i ddweud wrth busnesau am gynlluniau cadarnhaol y Blaid i'w helpu trwy'r amseroedd anodd hyn.  

forget_politics_-_lets_talk_business_EN.doc

forget_politics_-_lets_talk_business_CY.doc

 

4. Cliciwch!

Ffordd arbennig o dda o ledaenu'r neges yw defnyddio rhwydweithio cymdeithasol megis trydar a facebook. Rhowch y gair ar led i'ch cyfeillion a'ch dilynwyr heddiw. Postiwch y neges hon ar facebook neu twitter:

 

Byddai cynllun swyddi Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth i chi, eich teulu, eich cymuned a'ch busnesau lleol. http://www.plaidcymru.org/creu-swyddi/ #ymlaen

 

5. Soniwch wrth eich cyfeillion a'ch teulu

Siarad yw'r dull gorau o hyd o ledaenu neges! Os ydych yn siarad am swyddi, yr economi neu wleidyddiaeth yn y siop leol, y caffi neu gyda'ch ffrindiau – cofiwch sôn wrthynt am gynigion uchelgeisiol y Blaid i helpu pobl yn ystod yr amseroedd caled hyn.