Plaid Cymru

Ydych chi eisiau i Gymru gael llais cryfach?

Do you want Wales to have a stronger voice?


Mynd yn syth i'r wefan / Skip and continue to website

Cymraeg English

Cymru Gynaliadwy

 

Llyr Gruffydd AC

Gweinidog Cysgodol Cymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd

Fy ngweledigaeth i yw gweld cymunedau cynaliadwy ledled Cymru.

Mae fy ngweledigaeth i yw gweld cymunedau sy'n ffynnu ledled Cymru. Mae hynny'n golygu cymunedau sy'n weithgar, wedi eu cynnal gan economïau lleol cryf, gwasanaethau o ansawdd uchel a chydberthnasau da. Dylai cymunedau for yn gynaliadwy,  yn buddsoddi nawr mewn creu ansawdd bywyd da ar gyfer y dyfodol.

Cyn y gall cymunedau ffynnu, mae angen i bobl gael mynediad i swyddi ac incwm da.  Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae arnaf eisiau gweld economïau trefol a gwledig yn elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan ein hadnoddau naturiol cyfoethog, gan gynnwys bwyd, ynni, dŵr,coedwigaeth a'n moroedd.

Mae Cymru yn cynhyrchu bwyd o safon byd o'n tir a'n moroedd sydd eisoes yn chwarae rhan bwysig yn y marchnadoedd domestig Cymreig ac allforion. Rwyf eisiau gweld hynny'n tyfu. Yr wyf am weld ei werth yn cynyddu drwy brosesu ein cynnyrch yn fwy lleol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r cynhyrchwyr a manwerthwyr a gydag ysbytai ac ysgolion i gynyddu'r defnydd o fwydydd lleol ac iachus.

Mae'r potensial a gynigir gan y galw cynyddol am ynni adnewyddadwy yn sylweddol ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hyn. Amcangyfrifir bod y ffynhonnell bresennol o wynt ar y tir werth £2.3 biliwn i'n heconomi, a gallai ein llanw pwerus gynnig gwobrwyon hyd yn oed yn fwy yn y tymor hir.

Fy ngweledigaeth ar gyfer yr asedau gwerthfawr hyn yw y byddant yn nwylo pobl a chymunedau Cymru. Yr wyf am i'r budd ariannol o ddefnyddio ein hadnoddau fynd i'r cymunedau lleol a Thrysorlys Cymru. Dylai ein gwarged trydan a dŵr arwain at ostwng biliau ar gyfer defnyddwyr Cymru, yn hytrach na'r prisiau gormodol yr ydym yn eu talu ar hyn o bryd.

Rwyf eisiau gweld gwell defnydd o wariant sector cyhoeddus i fuddsoddi yn ein heconomïau lleol a'n cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Dylai caffael cyhoeddus gefnogi cyfleoedd swyddi lleol yn ogystal ag amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol. Ar hyn o bryd mae'r sector cyhoeddus yn gwario £4.3 biliwn bob blwyddyn.

Rwyf am weld cymunedau sy'n cefnogi cysylltiadau a chreadigrwydd. Mae hyn yn golygu mynediad i fand eang cyflymder uchel a datblygu'r sgiliau a'r hyder i gyflawni'r hyn y mae'r dechnoleg newydd yn medru ei gynnig. Bydd hyn yn hanfodol ar gyfer tyfu busnesau, gwella gwasanaethau a diogelu ein hamgylchedd.

Yr wyf am i ganol ein dinasoedd, trefi a phentrefi fod yn canolfannau sy'n dod â phobl at ei gilydd i weithio ac i fyw. Mae hyn yn golygu annog busnesau bach, tai a gwasanaethau i ddychwelyd i'r stryd fawr a'r canol trefi.

Dylai canolfannau trefol fod wedi'i gynllunio i fod yn fannwu lle mae pobl am fyw a gweithio. Mae hynny'n golygu mwy o fannau gwyrdd, gan ei wneud yn hawdd i gymryd y dewis iach i gerdded a beicio a darparu cysylltiadau da i'r ardaloedd cyfagos canolfannau trefol eraill.

Yr wyf am weld cymunedau eu hunain yn cymryd yr awenau o ran gweithgareddau a chael cyfleoedd i berchen, rheoli a gwneud gwell defnydd o adeiladau dinesig a mannau agored. Rwyf eisiau gweld cymunedau'n cael eu grymuso i wella ansawdd bywyd eu hunain.      

Er mwyn i gymunedau ffynnu, mae angen i bobl allu fforddio i gymryd rhan. Rwyf eisiau gweld torri biliau'r cartref nawr ac yn y dyfodol drwy gynyddu'r buddsoddiad mewn mesurau effeithlonrwydd ynni a dwr.

Rwyf eisiau gweld mwy o dai ar gael er mwyn dod â chostau rhenti a'r prisiau tai i lawr yn y tymor canolig. Rhaid seilio hyn ar angen presennol a dyfodol cymunedau. Rhaid i dai newydd fod wedi'i chynllunio fel eu bod yn ymateb i anghenion pobl – lle mae pobl eisiau byw ac yn ofod y mae pobl am fyw ynddo - ac yn cefnogi cynaliadwyedd cymunedau presennol.

Gellir hefyd ddefnyddio ein tir i leihau'r costau a wynebir gan gymunedau. Yr ydym wedi gweld y difrod a adawyd gan lifogydd ac mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth newidiadau ymhellach. Hoffwn i wobrwyo rheoli tir gwell sy'n lleihau llifogydd ac yn helpu ein hamgylchedd naturiol i ffynnu.

Mae cymunedau llewyrchus a ffyniant yr  iaith Gymraeg yn mynd law yn llaw. Gall economi wledig gref â chanolfannau trefol fywiog ddenu mwy o bobl ifanc i fyw a gweithio mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Mae'r iaith Gymraeg yn cyfoethogi bywyd diwylliannol cymunedau, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd.