Ein gweledigaeth ar gyfer ein plant

Beth yw gweledigaeth y Blaid i'n plant a'n system addysg?

Crêd y Blaid mai diffyg gofal plant yw un o'r rhwystrau mwyaf i gyflogaeth ac y mae'r Blaid yn benderfynol o ddarparu gofal plant fforddiadwy o safon i bob teulu yng Nghymru. Yr ydym wedi ymrwymo o gwricwlwm y blynyddoedd cynnar - y Cyfnod Sylfaen - sy'n pwysleisio dysgu trwy chwarae, a galwn am astudiaeth i ddichonoldeb darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran ysgol babanod yng Nghymru.

Mae'r Blaid yn galw am adolygiad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru er mwyn ystyried y pynciau a'r dulliau dysgu. Yr ydym yn cefnogi cyflwyno TGAU iaith dramor orfodol mewn ysgolion uwchradd a dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o gryfhau dysgu hanes a diwylliant Cymru.

Byddwn yn parhau i wrthwynebu ysgolion sylfaen, academïau ac ysgolion rhydd, nad ydynt yn ymatebol i'r cyhoedd ac mewn llawer achos sydd ag arferion staffio gwael, gan gynnwys diffyg cydnabod undebau ac amodau gwasanaeth gwannach i staff, yn ogystal â chyflwyno'r sector preifat i'n system addysg.

Yr ydym yn cefnogi Strategaeth Genedlaethol Addysg Gymraeg y llywodraeth a gyhoeddir ar fyrder. Credwn yn gryf fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys disgyblion ag Anghenion Addysg Arbennig. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i wthio am dargedau cryfach. Yr ydym hefyd yn cefnogi cynlluniau i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gael ffrwd gyllido annibynnol a chofrestr annibynnol o fyfyrwyr.

Byddwn yn comisiynu gwasanaethau eiriol i blant a phobl ifanc gan ddarparwyr o'r trydydd sector yn genedlaethol er mwyn gofalu y gall plant a phobl ifanc fod yn hyderus bod eu gwasanaethau eiriol yn wirioneddol annibynnol ar ddarparwyr gwasanaeth lleol. Ein nod fydd cyflwyno gwasanaeth cyffredinol fydd ar gael i unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd ei angen, ac fe rown flaenoriaeth i wasanaethau i'r rhai mwyaf bregus. Byddwn yn adolygu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant a Phobl Ifanc. Byddwn yn datblygu targedau deallus sydd yn mesur profiad y defnyddwyr gwasanaeth a deilliannau, nid prosesau yn unig.

Byddwn yn adolygu'r Strategaeth Tlodi plant i wneud yn siwr ei fod mor effeithiol ag sydd modd. Gan weithio gyda'r Trydydd Sector byddwn yn gwneud yn sicr bod cynlluniau manteisio ar fudd-daliadau effeithiol yn ardal pob awdurdod lleol a bod y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar leihau tlodi plant. Byddwn yn lobïo llywodraeth San Steffan am newidiadau i'r systemau treth a budd-daliadau.

Fe fyddwn yn rhoi blaenoriaeth i amddiffyn plant a byddwn yn gweithio i drawsnewid cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaethau plant a phobl ifanc lleol a'r trydydd sector i gynnal a gwella'r canolbwynt ar ymyriad cynnar. Byddwn yn adolygu gwaith Byrddau Lleol Diogelu Plant ac yn cymryd y camau angenrheidiol i'w gwneud mor effeithiol ag sydd modd. Byddwn yn deddfu i godi'r oedran pryd y daw cyfrifoldeb awdurdodau lleol am bobl ifanc sy'n derbyn gofal i ben i 25. Byddwn yn gosod targedau uchelgeisiol newydd am lwyddiant addysgol plant sy'n derbyn gofal.

Gan weithio gyda gofalwyr maeth, awdurdodau lleol, y trydydd sector a chyda phlant a phobl ifanc, byddwn yn datblygu Cyfres Genedlaethol o Delerau ac Amodau i Ofalwyr Maeth, sy'n eu cydnabod fel rhan broffesiynol llawn o'r gweithlu plant. Byddwn yn adolygu cydbwysedd y ddarpariaeth i blant sy'n derbyn gofal rhwng gofal maeth a gofal preswyl er mwyn sicrhau bod y gymysgedd iawn o ddarpariaeth ar gael i ateb anghenion pob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal.

Byddwn yn ceisio datganoli system y llysoedd Plant a Theulu. Yn y cyfamser, fe fyddwn yn gofalu bod CAFCASS yn gweithio o safbwynt hawliau plant. Byddwn yn gofalu fod gan CAFCASS ddigon o adnoddau i alluogi gweithwyr i ymchwilio yn llawn a thrylwyr i amgylchiadau unigol pob plentyn. Byddwn yn sicrhau y caiff teuluoedd Cymraeg eu hiaith swyddog CAFCASS Cymraeg ei h/iaith bob amser, a bod modd gwrando ar achosion Llys Teulu yn Gymraeg.

Trwy ein Strategaeth Gwrth-Drais yn Erbyn Menywod, fe wnawn yn sicr y gall plant a phobl ifanc gael yr addysg a'r wybodaeth sy'n herio'r stereoteipiau rhyw niweidiol sy'n sail i drais yn erbyn menywod. Byddwn yn gofalu y caiff plant fu'n dystion i drais yn y cartref neu sydd wedi dioddef o'i herwydd y gefnogaeth y mae arnynt ei angen. Yn benodol, byddwn yn gweithio i sicrhau bod digon o weithwyr plant mewn llochesi trais yn y cartref.

Fe fyddwn yn cadw swydd Comisiynydd Plant Cymru ac yn gofalu bod Swyddfa'r Comisiynydd yn cael digon o adnoddau. Byddwn yn deddfu i wella pwerau statudol y Comisiynydd. Byddwn yn cefnogi cadw'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y Cynulliad.

Yr ydym eisiau datblygu a gwella'r Fagloriaeth Gymreig. Mewn llywodraeth, yr ydym yn dwyn y Llwybrau Dysgu 14-19 ymlaen ac yn cyflwyno Lefel Sylfaen newydd y Fagloriaeth Gymreig o 14 oed ymlaen.

Mae'r Blaid wedi croesawu'r adolygiad annibynnol cynhwysfawr i gyllido addysg yng Nghymru am ein bod yn gwybod mor bwysig yw i gymaint ag sydd modd o'r cyllid fynd i reng flaen addysg, heb ei wastraffu ar fiwrocratiaeth ddiangen. Mae'n hanfodol bwysig fod cymaint ag sydd modd o'r gyllideb addysg yn mynd i'r rheng flaen, i ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn galw ar i lywodraeth Cymru symud ymaith oddi wrth fecanwaith cyllido fesul disgybl i fodel cyllido seiliedig ar ddalgylch.

Byddwn yn ymgyrchu am Wasanaeth Dinasyddiaeth Cenedlaethol i Gymru, cynllun gwirfoddol i'r wlad gyfan lle gall pobl ifanc gwblhau blwyddyn o wirfoddoli cyn gadael yr ysgol.

Ni fydd y Blaid yn cenfogi unrhyw godiadau pellach mewn ffioedd dysgu i'n myfyrwyr addysg uwch, a byddwn yn ceisio dileu ffioedd dysgu pan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu. Ac eto, gwyddom fod mater cyllido addysg uwch yn fater o bwys yn wyneb toriadau gwario. Cyflwynodd llywodraeth Cymru grantiau newydd gyda phrawf modd, yn ogystal â chynlluniau i ddileu dyledion myfyrwyr o hyd at £1,500 fel rhan o gynllun i annog graddedigion i weithio yng Nghymru. 

TagiauAddysg