Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Beth yw gweledigaeth y Blaid i ddyfodol ein cenedl?

Ym Mawrth 2011, gofynnir i bobl Cymru gymryd y cam hollbwysig o bleidleisio 'ie' mewn refferendwm i roi'r gallu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio ein deddfau ein hunain.

Ers amser maith, mae Plaid Cymru wedi cefnogi hawliau'r Cynulliad Cenedlaethol i gael pwerau deddfu yn y meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli. Dywed polau piniwn annibynnol fod pobl Cymru yn cefnogi pwerau deddfu cryfach i'r Cynulliad a therfyn ar y system LCO ddrud, cymhleth a biwrocrataidd bresennol fel cam pellach tuag at well democratiaeth Gymreig. Mae nawr yn bryd i'n cenedl gymryd y cam nesaf hwnnw.

Plaid Cymru yn unig mewn gwleidyddiaeth Gymreig fydd yn wastad yn rhoi Cymru yn gyntaf. Er ei bod yn hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar y problemau sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd, mae'n gyfrifoldeb arnom hefyd i drafod ein gweledigaeth yn y tymor hwy i Gymru – ac wrth gwrs, ein nod yn y tymor hwy yw annibyniaeth.

Allai Cymru ffynnu fel cenedl annibynnol? Rydym ni'n meddwl y gall Cymru. Rydym newydd ddathlu deng mlynedd gyntaf datganoli – ond credwn mai'r ddeng mlynedd nesaf fydd gwir ddegawd newid. Mae Cymru a'i phobl yn barod ac yn awyddus i ofyn y cwestiynau anodd – a hefyd i gynhyrchu'r atebion.

Fodd bynnag, yn y tymor byr, mae ar lywodraeth Cymru angen yr arfau ariannol i wneud y gwaith yn iawn. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn colli o leiaf £300 miliwn y flwyddyn ac £8.5 biliwn y ddegawd oherwydd y fformiwla gyllido annheg, a gondemniwyd bellach fel un sydd wedi dyddio, gan bedwar adroddiad annibynnol ar wahân, gan gynnwys Comisiwn annibynnol Holtham ar Gyllido a Chyllid, sydd o blaid cyllido i Gymru ar sail angen cymharol. Byddwn yn parhau i alw am fabwysiadu argymhellion Holtham.

Yn dilyn blynyddoedd o gamreolaeth economi gwledydd Prydain gan Lafur, mae llywodraeth glymblaid newydd San Steffan hefyd wedi ein condemnio i doriadau gwario cyhoeddus enfawr – toriadau a ddisgrifiwyd gan lywodraeth Cymru fel "ergyd galed i bobl Cymru, y gwaethaf ers datganoli a'r setliad isaf o'r holl genhedloedd datganoledig." Yma yng Nghymru, byddwn yn colli bron i £2 biliwn dros y pedair blynedd nesaf. £2 biliwn yw hyn a gymerir oddi wrth ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein cymunedau, ein cludiant cyhoeddus, ein gofalwyr, a llawer mwy.

Dyna pam yn awr, yn fwy nac erioed, fod ar Gymru angen arweiniad cryf ac uchelgeisiol, ac y mae Plaid Cymru yn barod i'n harwain i'r ddegawd newydd o newid i Gymru.