RSS BLOG Y LLECHEN

FIDEO: Gwella maes awyr Caerdydd

08/10/2021

Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn son am wella maes awyr Caerdydd.

Rwyf innau hefyd yn croesawu’r adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Busnes ac ymateb cyffredinol gadarnhaol Llywodraeth Cymru i’r argymhellion. Byddaf innau hefyd yn canoli fy sylwadau ar Faes Awyr Caerdydd, sef ein hunig faes awyr rhyngwladol, ac fel y dywedodd llawer Aelod y prynhawn yma, mae wedi wynebu cryn anawsterau dros y blynyddoedd diwethaf. Ni chafwyd y cynnydd disgwyliedig mewn niferoedd teithwyr, gyda’r niferoedd yn cwympo eto o 14% yn 2011, i lawr o bron i 1.4 miliwn o bobl i 1.2 miliwn, a’r elw wedi troi’n golled. Yn amlwg, mae angen newid rhywbeth.

Dyna pam fy mod yn synnu braidd, fel y siaradwr blaenorol, mai’r un maes lle na’r aeth y pwyllgor i fanylion yn ei gylch oedd cwestiwn perchenogaeth Maes Awyr Caerdydd. Nodwyd eisoes, wedi ad-drefnu llywodraeth leol, y preifateiddiwyd y maes awyr ym 1995 a’i brynu gan y perchennog presennol, Abertis, yn 2005. Wrth ddatgan ei gynlluniau am dasglu yn ôl ym mis Mai, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda darpar-brynwyr oedd â diddordeb mewn partneriaeth preifat-cyhoeddus i’r maes awyr, gyda Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfran.Da o beth fuasai gwybod sut mae’r trafodaethau hyn yn mynd yn eu blaenau. Wedi’r cyfan, roedd y tasglu a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mehefin i fod i gael ail gyfarfod ym mis Medi, ond mae’n debyg na ddigwyddod yr ail gyfarfod eto.
Safbwynt Plaid Cymru yw, o fewn rheolau cymorth y wladwriaeth, y carem weld cymaint o gefnogaeth ag sydd modd yn cael ei roi i Faes Awyr Caerdydd fel bod y maes awyr yn gweithredu er budd pobl Cymru fel cyfrwng creu swyddi a llwybr at fuddsoddi. Mae’r rheolau hynny ar gymorth y wladwriaeth yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan yr UE, gan ganolbwyntio yn arbennig ar rôl meysydd awyr rhanbarthol mewn twf economaidd, ac yr wyf yn gobeithio fod Llywodraeth Cymru wedi chwarae rôl lawn ac wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Os ydyw, buaswn yn falch o gael copi o’r ymateb hwnnw.

Prin y buasai cyfranogiad llywodraeth ym mherchenogaeth maes awyr yn unigryw, wedi’r cyfan - Llywodraeth Denmarc sydd biau bron i 40% o Faes Awyr Copenhagen. Trwy fod â chyfran yn y maes awyr, gallem sicrhau mai egwyddorion sylfaenol ein maes awyr cenedlaethol fyddai mwy o adnoddau i ddatblygu llwybrau hedfan, mwy o ymchwilio i gyd-gyllido i wella cyfleusterau, denu cwsmeriaid busnes a chwmnïau tramor, a fydd yn dod ag arian i mewn i Gymru, a datblygu strategaeth tymor-hir yn hytrach nag ateb cyflym i gipio penawdau.

Gallai hynny hefyd olygu hybu ein cysylltiadau KLM, gyda Schiphol fel canolfan ryngwladol, ac edrych eto ar gysylltiadau rhwng Cymru ag Efrog Newydd, a rhannau eraill Gogledd America. Rhaid i ni ofalu bod Maes Awyr Caerdydd yn adlewyrchu Cymru ar ei gorau, ac y mae gwell maes awyr yn hybu ein heconomi lleol. Mae Maes Awyr Caerdydd yn eicon Cymreig, ac y mae gan bobl Cymru ddiddordeb byw yn ei ddyfodol, a da hynny. Mae pobl eisiau bod â balchder sifig yn y maes awyr. Rydym eisiau iddo fod gymaint yn well. Dyw pobl ddim eisiau gorfod mynd i Fryste er mwyn mynd ar wyliau. Mae ymdeimlad yna y dylai Cymru feddu ar faes awyr rhyngwladol am ein bod yn genedl.Mae pobl yn rhwystredig iawn ac yn siomedig nad yw’r maes awyr yn perfformio i’w lawn botensial. Ond maent hefyd am ei weld wedi cael ei drawsnewid. Gallai cyfran gan y llywodraeth yn y Maes Awyr roi cynrychiolaeth fwy uniongyrchol i bobl Cymru yn y cyfleuster, a fyddai’n help i ddiogelu ei ddyfodol.