RSS BLOG Y LLECHEN

Y ty mawr o'r tu allan

12/10/2021

Blog  wythnosol Hywel Williams AS. Dilyn Hywel ar Twitter.

A minnau dan annwyd cefais gyfle i wylio tipyn o gynhadledd y Ceidwadwyr. Roedd llawer ohono fel y byddech wedi disgwyl, clochdar am fanion. Ond chawarae teg, roedd araith Mr Cameron yn slic a phwrpasol, er i mi yn gam yn ôl at sicrwydd cysurus neothatcheriaeth.

Rhyfedd oedd clywed Cameron yn son am sicrhau braint (h.y.privilege) i bawb. Fy nealltwriaeth i o ystyr ‘braint’ yw ei fod yn fantais i rywun ar draul rhywun arall. Ond efallai mai Mr C sy’n gywir, ac yntau mor gyfarwydd a chanlyniad y term yn ei fywyd pob dydd.

……………………………………..

Chlywais i neb yn clochdar mai polisiau i Loegr yn unig yw’r rhai addysg a iechyd maent mor falch ohonynt. Yr eithriad (bach) oedd y rhedeg ar bolisi iechyd Llafur yng Nghymru. Ond wn i ddim a ydy hyn yn broblem i Geidwadwyr o Cymru; wn i ddim a ydynt hyd yn oed yn ymwybodol o’r anghysondeb.

P’run bynnag, i David Cameron a’i ffrindiau mae eu polisiau iechyd ac addysg yn rhai ‘cenedlaethol’, a dyna ni. Efallai byddant yn deffro rhyw dro cyn cyflafan Albanaidd 2014.

Mae ASau Llafur o Gymru, a oedd gymaint o blaid cydweithio efo San Steffan dro yn ôl, rwan wrth eu boddau yn canmol datganoli, bron fel rhyw fath o annibyniaeth. Dyma i chi drydar Ann Jones AC heddiw "Cameron or Carwyn - I know who I want to run our country." Cymru ydy ‘our country’ rwan, neu efallai hyd nes fydd Ed yn saff yn Rhif 10.

Ydwi yn rhy synigaidd tybed? Dyma i chi gwestiwn ar hen hanes. Pwy ofynodd ‘What nation would that be then? mewn ymateb i ddefnydd  diddiwedd o’r gair ‘nation’? Cyn i chi grafu eich pennau gormod, AS Caernarfon oedd yn holi Harriett Harman (Llafur), a hithau fel Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn paldaruo o’r fainc flaen am addysg ‘national’ tra yn golygu ‘English’.

Fe gymerodd Hattie rhyw funud neu ddau i sylweddoli byrdwn y cwestiwn cyn ymateb a chywirio ei hun. Ond bryd hynny roedd ASau Llafur o Gymru yn od o ddistaw.

……………………………………………………………..

Pur anaml glywais i’r Toriaid yn defnyddio’r erchyllbeth ‘inglanawels’, er efallai fy mod yn hepian erbyn hynny. Eithriad amlwg oedd Chris Grayling yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ac yntau yn son am yr hawl ‘newydd’ i ddeiliaid eiddo ymateb yn afresymol o dreisgar i ladron gefn nos.

Mewn gwirionedd mae’r llysoedd eisoes yn cymryd sylw o’r amgylchiadau ar y pryd ac yn barod i esgusodi ymddygiad  a fyddai drannoeth yn edrych yn eithafol o afresymol.  

Yr achos a ddyfynnir amlaf gan y rhai sydd o blaid tanio at fyrglars ydy un Mr Tony Martin a garcharwyd am lofruddio lleidr. Ond camgymeriad ydy dyfynnu’r achos yma.

Fe laddodd Mr Martin fyrglar 16 oed drwy ei saethu ddwywaith efo gwn pwmp 12 bor (sydd yn anghyfreithlon beth bynnag) ac wrth i hwnnw ffoi. Do, fe ostyngwyd y dyfarniad i ddynladdiad ar apel, ond roedd hynny ar sail anhwylder personoliaeth Mr Martin.

Felly, beth bynnag yw bwriad Mr Grayling, a beth bynnag a ddywed y papurau bach dros y misoedd nesaf, tydi creu hawl newydd ddim yn un ohonyn nhw.

……………………………….

Mae Pete Wishart AS yr SNP yn gyn gerddor roc efo Runrig. Rwan mae o’n chwarae yn y band roc seneddol  MP4 (peidiwch a chwyno am yr enw da chi – mae hynny ond yn eu plesio’n ddibendraw.)

Eleni roedd y dywediedig fand yn chwarae yng nghynhadledd y Toriaid. A’r gleision cymaint ar i lawr yn yr hen ogledd, sylw Pete wrth hel ei draed am Birmingham oedd, o leia byddai ei bresenoldeb yn dyblu’r nifer o ASau Albanaidd yno.