RSS BLOG Y LLECHEN

Y cam nesaf i Gynllun Iaith y Cynulliad

19/10/2021

Gan Elin Jones AC.  Dilyn Elin ar Twitter. 

Gan fod y Bil Ieithoedd Swyddogol bellach wedi ei gymeradwyo, mae Plaid Cymru nawr eisiau symud ymlaen i sicrhau cydraddoldeb y Gymraeg a’r Saesneg yn y Cynllun Iaith sy’n cyd-redeg gyda’r Bil. Mi fyddai wedi bod yn haws o lawer i drafod a chytuno’r Bil a’r Cynllun ar yr un pryd, ond nid felly y bu. I mi, y Cynllun yw’r priod le i sicrhau fod y ddwy iaith yn weithredol gyfartal yn y Cynulliad – i’r Aelodau, y staff ac i’r cyhoedd.

Mi fydd Grŵp Plaid Cymru yn cyflwyno ein cynigion i ddiwygio’r Cynllun Iaith i’r Comisiwn yn yr wythnosau nesaf. Yn dilyn hynny, mi fydd y Cynllun Iaith yn dod gerbron y Cynulliad yn llawn i’w gymeradwyo, neu ei wrthod. I Blaid Cymru, mae cyfartaledd y ddwy iaith yn egwyddor greiddiol ac fe rydyn ni yn derbyn y ffaith fod Cynllun Iaith y Cynulliad yn ddogfen sy’n rhoi arweiniad i holl gynllunio a safonau iaith yng Nghymru.

Nid ystyriaeth cost sy’n sail i Gynllun Iaith, ond egwyddor o gydraddoldeb ac ymarferoldeb defnydd dydd i ddydd. Mae nifer o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith yn y Cynulliad ac, i ni, mae’r wasanaeth gefnogol i Aelodau Cynulliad yn elfen bwysig o Gynllun Iaith, yn ogystal â’r wasanaeth i’r cyhoedd. Trwy ei defnydd y bydd y Gymraeg yn byw.

Felly, beth yw’r gwelliannau mae Plaid Cymru eisiau eu gweld i’r Cynllun Iaith drafft sydd i’w weld yma?

Yn unol â’r gwelliannau a osododd Plaid Cymru yn y ddadl ar y Bil, yna fe fyddwn yn gyntaf eisiau i’r Cynllun osod cyfrifoldeb am hyrwyddo’r Gymraeg ar swyddog penodol o’r Comisiwn. Nid swydd newydd fydd hon, ond mae angen i gyfrifoldeb am y Cynllun orwedd gydag un aelod o staff, er fydd y Cynllun yn cael ei weithredu gan holl staff y Comisiwn yn eu gwaith bob dydd.

O ran Cofnod y Pwyllgorau, yna mae Plaid Cymru yn credu y dylai’r Cofnod yma gael ei gyhoeddi yn y ddwy iaith, ac ar yr un pryd. Nid ydym bellach yn credu bod angen cofnodi trafodion y Pwyllgorau yn llawn ac yn verbatim. Felly, rydym eisiau gweld Cofnod dwyieithog o eitemau a phenderfyniadau, gyda chofnod verbatim dwyieithog o eitemau craffu Gweinidogion a chraffu deddfwriaethol.

O ran Cofnod y Cynulliad, yna, yn unol â’r Bil, bydd yn orfodol iddo fod yn y ddwy iaith. Ar hyn o bryd, mae’r Cofnod drafft o fewn 24 awr yn yr iaith a lefarwyd, gyda chyfieithiad o’r geiriau a lefarwyd yn y Gymraeg i’r Saesneg. Drafft yn unig yw’r cofnod yma, a gall gael ei newid neu ei gywiro tan y Cofnod terfynol o fewn pum diwrnod. Mae Aelodau Cynulliad yn cynnig cywiriadau i’r Cofnod drafft (e.e. er taw IED – incendiary explosive devices – ddwedwyd gan un Aelod mewn dadl ar amaethyddiaeth yn y Siambr, EID – electronic identification o ddefaid – sydd bellach ar y Cofnod!).

A oes angen i’r Cofnod drafft hefyd fod yn gwbl ddwyieithog o fewn 24 awr?

I mi, fe rydw i yn cydnabod y gwahaniaeth rhwng anghenion y ddogfen drafft a’r ddogfen derfynol. Er hyn, rwy’n deall y ddadl fod y Cofnod drafft 24 awr yn ddogfen gyhoeddus, ac felly yn ddarostyngedig i’r egwyddor o gyfartaledd y ddwy iaith. A ddylid felly ond cyhoeddi’r Cofnod drafft 24 awr yn yr iaith a lefarwyd – y Gymraeg yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y Saesneg – ac yna y Cofnod dwyieithog, terfynol, llawn o fewn pum diwrnod?

A fyddai hynny’n anfanteisiol i lefarydd sydd yn defnyddio’r Gymraeg bron yn gyfan gwbl, fel fi?

O bosib, ar adegau.

Opsiwn arall yw ymestyn cyhoeddi’r Cofnod drafft i 48 awr, a’i gyhoeddi’n llawn yn y ddwy iaith, neu wneud hynny o fewn 24 awr. I mi, mae braidd yn afresymol i gyfieithu dogfen sydd dal yn ddrafft, a gwneud hynny dros nos. Nid oherwydd cost rwy’n dweud hyn (oherwydd rwy’n tybio nad yw’r gwahaniaeth cost yn sylweddol iawn), ond o ran arfer da. Yr hyn sy’n cymhlethu’r sefyllfa yma yw bod y Cofnod drafft yn gyhoeddus, ac nid yw’n ddogfen fewnol ddrafft.

Bydd Grŵp Plaid Cymru yn cyflwyno ein cynigion i ddiwygio’r Cynllun Iaith i’r Comisiwn maes o law. Byddwn yn gwneud hynny gyda’r egwyddor o gydraddoldeb y ddwy iaith yn flaenllaw, a gyda’r dymuniad i weld cefnogaeth ar gael i fwy o Aelodau Cynulliad a staff ddewis defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Os oes gennych sylwadau i wneud ar y Cynllun Iaith i Blaid Cymru, yna mae croeso i chi ymateb.