RSS BLOG Y LLECHEN

Gall Cymru gael Bargen Well

26/10/2021

Ieuan Wyn Jones sy'n egluro bod dim rhaid i ni ymfodloni ar fargeinion gwael i’n cenedl.

Mae’r argyfwng economaidd diweddar yn mynnu gweithredu beiddgar a phendant gan ein llywodraethau. Yn y trafodaethau rhwng y llywodraethau ar bwerau benthyca a diwygio Barnett, buasai Plaid Cymru wedi anelu’n uchel. Byddai hyn wedi golygu cytuno ar fecanwaith i bennu llawr Barnett, cytuno ar fecanwaith ar gyfer fformiwla gyllido arall yn lle’r fformiwla, cytuno ar amlen ariannol ar gyfer pwerau benthyca a chaniatáu i Gymru ddatblygu ffordd arloesol o godi arian heb i hyn gael effaith ar y grant bloc Cymreig. Yr oedd y cyhoeddiad ddoe gan lywodraethau’r DG a Chymru yn siomedig am na chyrhaeddwyd yr un o’r amcanion hyn.

Yr oedd y datganiad yn rhan o broses ddeublyg o drafodaethau cyfansoddiadol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DG yn hydref 2011. Ar y naill law mae Comisiwn Silk, sydd yn edrych ar bwerau trethu a benthyca i Gymru yn eu hadroddiad cyntaf, sydd i fod allan y mis nesaf. Ar y llaw arall mae’r trafodaethau dwyochrog hyn, sy’n edrych yn benodol ar bwerau benthyca a diwygio Barnett

Wedi blwyddyn o waith, daethant i’r casgliad fod Comisiwn Holtham (ac ymchwil blaenorol Plaid Cymru) yn gywir - mae Fformiwla Barnett yn cynnwys effaith cydgyfeirio pan fo gwariant cyhoeddus yn cynyddu, gan wasgu swm y buddsoddiad y mae Cymru yn dderbyn y pen o boblogaeth mewn cymhariaeth a Lloegr. Cytuno i archwilio hyn yn y dyfodol yn unig a wnaethant.

Cytunasant hefyd, mewn egwyddor, i Lywodraeth Cymru gael pwerau, rywbryd yn y dyfodol, i fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf, yn y bôn i adeiladu ysgolion, ysbytai, tai neu ffyrdd. Byddai hyn yn dod â Llywodraeth Cymru yn gyfartal â Llywodraeth yr Alban, gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a chynghorau lleol; mae gan y rhain oll ar hyn o bryd y pwerau hyn.

Doedd dim cyhoeddiad yn y datganiad am faint y gellid ei fenthyca, naill ai y flwyddyn nac am yr amlen fenthyca, nac ychwaith ddyddiad cychwyn, er y cafwyd cytundeb y gallai arian fod ar gael ar gyfer prosiectau penodol yn gynt. Mae’r pwerau benthyca hyn yn amodol ar ganfyddiadau adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar drethiant, a gyhoeddir ymhen rhai wythnosau.

Does dim llawer i’w ddangos am flwyddyn o waith gan ddwy lywodraeth.

Cyhoeddodd Comisiwn Holtham eu hadroddiad cyntaf yn hydref 2009, fwy na thair blynedd yn ôl. Argymhelliad canolog Holtham oedd y dylai’r trefniadau cyllido ar gyfer Cymru fod yn seiliedig ar anghenion cymharol - doedd dim sôn am hyn yn y datganiad gan y ddwy lywodraeth.

Dadleuodd y comisiwn hefyd nad oedd gweithredu’r fformiwla yn dryloyw, gan fod Trysorlys y DG mewn gwirionedd yn gweithredu fel barnwr, rheithgor a dienyddiwr ar y modd mae Fformiwla Barnett yn gweithredu. Eu hargymehlliad hwy oedd corff cynghori annibynnol, sef hyd-braich o’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru. Dyma’r system sydd ar waith yn Awstralia.

A symud oddi wrth Gomisiwn Holtham, beth sydd wedi digwydd i gynllun cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, y mae Cymru yn colli £73m dano eleni? Yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru, roedd hynny y rhan o’r trafodaethau dwyochrog. Nid oedd yn y datganiad.

Datganiad disylwedd oedd un dydd Mercher.

Pam cael trafodaethau ar wahân ar bwerau benthyca a phwerau trethu os yw’r llywodraethau yn cytuno na allwch gael y naill heb y llall?

Pam trafod rhai o argymhellion Comisiwn Holtham ar weithredu Fformiwla Barnett ond anwybyddu rhai eraill?

A yw canfyddiadau Comisiwn Holtham mewn gwirionedd wedi eu gwthio o’r neilltu gan Lywodraeth y DG ac a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn?

Lle mae hyn yn gadael Comisiwn Silk? A fydd ei dynged fymryn gwell am mai Llywodraeth y DG a’i sefydlodd, neu ynteu a fydd penderfyniadau gwleidyddol Llywodraeth y DG yn cymryd y flaenoriaeth dros unrhyw gytundebau y deuir iddynt?

Yr eliffant gwyn yn hyn i gyd yw’r Alban, sy’n gwneud yn eitha da ar gorn Fformiwla Barnett, a dyw Llywodraeth y DG ddim eisiau cynhyrfu’r dyfroedd cyn y refferendwm ar annibyniaeth yno yn 2014.

Mae gwers yma i bobl Cymru. Does dim rhaid i ni ymfodloni ar fargeinion gwael i’n cenedl. Nid dyma’r gorau a gawn. Os ydym am sefyll a chodi llais dros Gymru, mae’n rhaid i ni o ddifri fynnu bod y sawl sy’n trafod ar ein rhan yn codi eu disgwyliadau a’u dyheadau. Gall ein gwlad wneud gymaint yn well.

Ieuan Wyn Jones
Gweinidog Cyllid Cysgodol Plaid Cymru

 Dilyn @Ieuanwynjones ar twitter