RSS BLOG Y LLECHEN

Chelsea deg gwaith yn gyfoethocach na Chymru: Mae angen cytundeb newydd ar frys

18/12/2021

Mae Dafydd Wigley wedi cymryd golwg manwl ar y ffigyrau gros gwerth ychwanegol

Yn yr helynt yr wythnos ddiwethaf am ffigyrau’r Cyfrifiad, ychydig wnaeth sylw ar y tablau blynyddol am lefelau incwm cyfartalog ym Mhrydain. Dengys yr ystadegau hyn barhad yn y rhaniad de/gogledd.

Caiff incwm cyfartalog ei fesur fel “Gwerth Gros Ychwanegol” (GVA) y person. Mae’r bwlch incwm rhwng Cymru (neu Gogledd Lloegr), o gymharu â De-Ddwyrain Lloegr, yn arswydus. Gan Gymru y mae’r incwm isaf y pen o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DG.

Gorllewin Cymru a’r Cymoedd - sydd yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych - oedd a’r GVA isaf o unrhyw isranbarth ym Mhrydain (£13,573). Yr oedd hyn yn llai na hanner y ffigwr am Swydd Berkshire, Swydd  Buckingham a Swydd Rhydychen (£27,795); a llai na chwarter un Llundain Fewnol (£62,398).

Nid Cymru yn unig sydd yn dioddef incwm isel. Cernyw oedd nesaf at y gwaelod ar £13,848; a dim ond fymryn yn well yr oedd Teesside a Durham, ar £14,627. Mae gagendor rhwng De-Ddwyrain Lloegr ffyniannus a’r hen ardaloedd diwydiannol.

Ar lefel fwy lleol, mae’r gwahaniaeth yn fwy fyth. Cilgwri yw’r gwaethaf (£11,167); Cymoedd Gwent yr ail waethaf (£11,626) a hefyd ymysg pum ardal dlotaf Prydain mae Ynys Môn (£12,624).

Yn groes i hyn, mae gan “Orllewin Llundain Fewnol” – Kensington a Chelsea – ffigwr anhygoel o GVA y pen o £111,519. Mae gan ardaloedd cyfoethocaf Llundain ddeg gwaith mwy o incwm nac ardaloedd tlotaf Cymru.

Yn ddiweddar, mae’r bwlch wedi cau ychydig, o ganlyniad i sector ariannol Llundain yn arafu. Ond ers 1997, mae’r bwlch gyfangwbl tipyn yn lletach,ac fe gynyddodd y gyfran o GVA y DG a briodolir i Lundain, o 18% i 22%. Cwympo wnaeth cyfran Cymru a Gogledd Lloegr.

Mae rhai mannau llewyrchus ymaith oddi wrth Lundain. Tyfodd Caeredin o fod 53% uwchlaw cyfartaledd y DG ym 1999, i 64% uwchlaw cyfartaledd y DG yn 2011, dinas lewyrchus yn wir.

Yr wythnos ddiwethaf, noddais ddadl yn Nhŷ’r Arglwyddi ar gynigion diweddar Comisiwn Silk am bwerau ariannol cryfach i’r Cynulliad Cenedlaethol. Argymhellodd Silk yn unfrydol, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, y dylai’r Cynulliad gael pwerau i amrywio trethi ac i fenthyca. Yn wahanol i Senedd yr Alban, does ganddi ddim pwerau amrywio trethi ar hyn o bryd. Mae gan gynghorau cymuned fwy o rym i godi arian na’r Cynulliad!

Mae’r ffigyrau GVA yn tanlinellu’r angen am newid. Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd yng Nghymru. Ac eto, nid oes ganddi mo’r arfau i wneud y gwaith. Mae angen y gallu i amrywio trethi, rhoi cymhellion mewn parthau arloesi a benthyca i hwyluso rhaglenni buddsoddi cyfalaf sydd yn hybu’r economi.

Ers 2000 mae Cymru wedi elwa o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i helpu rhanbarthau tlotach. Mae angen mantoli llym i weld a ddefnyddiwyd yr arian hwn yn effeithiol. Dros y cyfnod 1999-2011 bu GVA cymharol rhannau tlotaf Cymru yn sefydlog ar 65% o gyfartaledd y DG. Nid yw arian Ewrop wedi cau’r blwch. Ar y llaw arall, gwelodd Cernyw - oedd hefyd wedi derbyn help rhanbarthol gan Ewrop -  eu GVA yn codi o 61% i 66% o gyfartaledd y DG dros y cyfnod hwnnw.

Mae ar Gymru angen bargen economaidd newydd, fel mater o frys. Cawn weld a fydd San Steffan yn rhoi’r sbardunau economaidd angenrheidiol i’r Cynulliad. Ond mae’n amlwg oni bai y byddwn ni’n helpu’n hunain, bydd neb yn gwneud hynny drosom.