RSS NEWYDDION

Dywedwch Ie dros Gymru’n cyrraedd ei botensial ar lwyfan rhyngwladol

17/02/2022

Bydd arweinydd Plaid Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones AC, yn dweud heddiw (Dydd Iau Chwefror 17eg) y byddai pleidlais ‘ie’ ar Fawrth 3ydd yn dangos bod Cymru yn wlad sydd â gallu, a byddai’n gwella delwedd y wlad ar lwyfan rhyngwladol.

Bydd Mr Jones, sydd hefyd yn AC dros Ynys Môn, yn gwneud araith allweddol mewn digwyddiad busnes yn dweud IE  sydd wedi ei drefnu gan Blaid Cymru yn etholaeth Caerffili.

Yn ystod ei araith bydd hefyd yn rhybuddio y gallai pleidlais ‘na’ achosi difrod anadnewyddadwy i’r ymdrechion i drawsnewid economi Cymru fel mae’r genedl yn dod allan o ddirwasgiad.

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn dweud y byddai rhoi’r gorau i’r cyfle i gael mwy o ddylanwad dros ddyfodol Cymru yn niweidio delwedd Cymru ledled y DG a thu hwnt. Bydd yn dweud y byddai pleidlais ‘na’ yn rhwystr enfawr i ymdrechion i greu perthnasau newydd  a chyfleoedd fusnes rhwng Cymru a’r byd yn ogystal â’r broses o ail-rymuso brand Cymru dramor.

Yn annog pleidlais ‘Ie’ bydd Mr Jones yn dweud bod "angen i wlad sydd eisiau ail-greu ei amgylchedd busnes a thrawsnewid ei lwc economaidd fod yn llawn hyder." Bydd yn dweud wrth y busnesau fydd yn cyfarfod yng Nghaerffili y byddai dweud ‘Ie’ i bwerau deddfu yn rhoi’r cyfle i Gymru i ddweud ei fod eisiau cystadlu gyda’r gorau.

Bydd Ieuan Wyn Jones AC yn dweud:

"Mae’r refferendwm hwn yn gyfle i ddweud ein bod ni yng Nghymru'r un mor alluog â’r Alban neu Ogledd Iwerddon neu bron iawn unrhyw wlad arall yn y byd o wneud cyfreithiau ein hunain. Mae hyn am sut rydym ni yng Nghymru yn edrych ac yn meddwl am ein hunain a sut rydym eisiau i bobl eraill ein gweld.

"Fedrwch chi ddychmygu pe baem yn pleidleisio ‘na’ ar Fawrth 3ydd? Beth fyddai wedyn yn digwydd ar y 4ydd pan fyddai’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi? Sut fyddai weddill y DG, heb son am weddill Ewrop a’r byd yn edrych arnom wedyn? Byddent yn edrych arnom ac yn gweld gwlad sydd wedi rhoi’r gorau i’r cyfle i gymryd cyfrifoldeb dros siapio ein dyfodol ein hunain. Gwlad - mwy na thebyg un o’r ychydig iawn - sydd erioed wedi dweud ‘na, dim diolch’ i gael pwerau deddfu ei hun - a dywedodd yn lle ein bod eisiau i eraill benderfynu beth sydd orau i ni.

"A ffrindiau, beth wedyn i ddelwedd Cymru fel rydym yn ceisio adeiladu perthnasau a chreu cyfleoedd fusnes gydag ein ffrindiau tu hwnt i’n ffiniau? Beth fyddai wedyn yn digwydd i ‘brand Cymru’ pryd rydym yn ceisio cymryd rhan mewn masnach a buddsoddiad gyda chwmnïoedd ledled gweddill y DU a thu hwnt?

"Nid dewis rhwng symud ymlaen neu aros yn yr un fan yw’r refferendwm hwn, yn wahanol i’r hyn mae rhai pobl eisiau i ni ei gredu. Mewn gwirionedd mae am symud ymlaen neu gymryd cam mawr yn ôl. Pa genedl gyda hunan-barch yn y byd fyddai eisiau dweud ‘na’ i wneud cyfreithiau ei hun yng Nghynulliad neu Senedd ei hun?"

Mae barnau arweinydd Plaid Cymru wedi eu hailadrodd gan gymuned busnes Cymru sydd hefyd yn cefnogi pleidlais ‘Ie’.