RSS NEWYDDION

AC Y BLAID YN GALW AC ELW YNNI GWYRDD I GAEL EI ROI I GYMRU

20/03/2022

 

Mae Stad y Goron yn debyg o elwa o filiynau o bunnoedd o ddatblygu ffermydd gwynt - a chred AC Plaid Cymru Leanne Wood y dylai manteision adnoddau naturiol fynd i bobl Cymru.

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan lefarydd y Blaid ar Gynaladwyedd fod y ffermydd gwynt sydd eisoes yn bodoli yn y môr yng ngogledd Cymru yn North Hoyle a Gwastadeddau’r Rhyl wedi cynhyrchu incwm i Stad y Goron o ryw £400,000 yn 2009-10.

A bydd hyn yn cael ei luosi lawer gwaith gyda datblygiad safleoedd eraill. Mae’r gwaith o godi prosiect Gwynt-y-Môr yn cychwyn eleni, a dywedodd the Stad y Goron wrth Leanne Wood fod ganddynt hefyd gytundeb datblygu parth gyda Centrica i ddatblygu hyd at 4.2 gigawatt, sydd yn ymdrin â dyfroedd Cymru a Lloegr.

Hefyd, mae gan Stad y Goron opsiynau ar y tir am dair fferm wynt yn Llys Dymper gyda Wind Power Wales, yn Llanllwni gyda RES Renewables a Chilfaesty gyda RWE Power. Cyflwynwyd ceisiadau cynllunio am y ddau gyntaf.

Dangosodd adrodd blynyddol Stad y Goron fod eu daliadau Cymreig wedi cynhyrchu gwarged gros o £2.3m yn 2009-10 gyda derbynion cyfalaf yn dwyn £1.8m i mewn. Mae’n berchen ar dros 3,000 erw ar hyd a lled Cymru, daliadau amaethyddol yn bennaf. Mae’r elw a enillir gan Stad y Goron yn cael eu talu i’r Trysorlys, yn ôl a ddywedant "er lles y genedl".

Llynedd, datgelwyd fod y Teulu Brenhinol wedi sicrhau bargen broffidiol fydd yn rhoi degau o filiynau o bunnoedd iddynt o’r ehangu mawr ar ffermydd gwynt yn y môr.

Fe gânt hyd at £37.5 miliwn yn ychwanegol o incwm bob blwyddyn o’r symudiad tuag at ynni gwyrdd am mai Stad y Goron biau gwely’r môr o fewn i ddyfroedd tiriogaethol Prydain.

Meddai Leanne Wood:

"Mae bron y cyfan o wely’r môr y DG, gan gynnwys yr hyn sydd yng Nghymru, hyd at 12 milltir fôr a mwy a hanner o flaendraeth y DG ym meddiant Stad y Goron.

"Cynhyrchodd y ddwy fferm wynt yng ngogledd Cymru £389,000 o incwm dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a bydd hynny yn tyfu yn filiynau o bunnoedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda chynnydd yn y symudiad tuag at fwy o ynni gwyrdd. Mae llawer mwy o brosiectau ar dir a môr ar y gweill.

"Barn y Blaid yw ei bod yn hen bryd i’r elw sy’n deillio o adnoddau naturiol Cymru, gwely’r môr a’r tir, fod ym meddiant Llywodraeth Cymru er lles pobl Cymru ac nid i goffrau’r Trysorlys, sy’n cael ei basio wedyn i Deulu Brenhinol sydd eisoes yn eithriadol gyfoethog.

"Tydym ni ddim eisiau ailadrodd y sefyllfa lle gwnaed elw enfawr o’r diwydiant glo ond na lwyddodd Cymru i fwynhau’r manteision ac y mae’n dal i dalu’r pris heddiw."

ENDS / DIWEDD

NOTES/NODIADAU

BETH DDYWED STAD Y GORON AM EI DALIADAU TIR YNG NGHYMRU

Yr ydym yn gyfrifol am dri daliad amaethyddol, gydag amrywiol ddefnydd: Aberystwyth, sydd yn cynnwys 34 hectar (84 erw) o dir a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer ymchwil a’r farchnad ddefaid sydd y pedwerydd fwyaf yng Nghymru, yn 3 hectar (8 erw); Pumlumon, 1,185 hectar (2,928 erw) sef dau ddaliad amaethyddol; a Thyndyrn, 68 hectar (169 erw) sydd yn cynnwys buddiannau mwynau sylweddol ar lan orllewinol yr Afon Gwy. Er mwyn cadw Abaty Tyndyrn i genedlaethau’r cyfodol, rydym wedi ei osod yng ngofal CADW (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol y Cynulliad Cenedlaethol) dan gytundeb rheoli tymor-hir. Tir comin yw’r rhan fwyaf o’n stad yng Nghymru, a ddefnyddir yn bennaf i bori defaid, ond mae gennym hefyd ffermydd mwy traddodiadol.