AS Plaid Cymru yn galw am newid radical mewn agwedd at yr amgylchedd
19/05/2022
Bu Hywel Williams AS Plaid Cymru yn croesawu dadl ar leihau gwastraff (18/05/11) gan alw am symudiad ledled Ewrop tuag at ymddygiad mwy cadarnhaol at yr amgylchedd.
Yn y ddadl yn Westminster Hall ar ‘Bolisi’r llywodraeth ar leihau gwastraff’, heriodd Mr Williams y llywodraeth i ddatblygu targedau am leihau gwastraff, nid yn unig am dargedau i ailgylchu mwy, a hefyd i annog partneriaethau ac arferion da ledled Ewrop.
Dywedodd Mr Williams fod Cymru ar flaen y gad o ran gosod targedau uchelgeisiol am ailgylchu a lleihau gwastraff.
Mae’r ddadl, sy’n cael ei chefnogi gan Gyfeillion y Ddaear a’r Gynghrair Clytiau Go-Iawn, yn cyd-ddigwydd ag “Wythnos Clytiau Go-Iawn”, a fwriadwyd i hyrwyddo cynhyrchion y mae modd eu hail-ddefnyddio, megis clytiau neu napis sydd yn well i’r amgylchedd na rhai gwaredadwy.
Wrth siarad wedi’r ddadl, meddai Mr Williams:
“Er bod ailgylchu yn ddiamau yn well i’r amgylchedd na gwaredu neu losgi, mae’n llai cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn ddrutach na lleihau gwastraff i gychwyn.
“Y mae pryderon, bellach, ein bod yn canolbwyntio gormod ar ailgylchu. Rhaid i ni wneud yn siŵr fod digon o sylw hefyd yn cael ei roi i atal gwastraff.
“Mae Cymru ar flaen y gad o ran gosod targedau uchelgeisiol am leihau gwastraff, ac mae’n cael ei defnyddio gan ymgyrchwyr fel esiampl o arfer da – ond yr hyn sydd arnom ei angen yw dadl ledled Ewrop ar leihau gwastraff.
“Rhaid cynnal trafodaethau gyda’r diwydiant am sut i ofalu bod mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo cynhyrchion parhaol y mae modd eu hail-ddefnyddio. Byddai defnyddio lai o becynnu yn ei gwneud yn rhatach i gynhyrchwyr, heb sôn am fod yn haws i’r defnyddwyr.
“Dyma’r amser i newid yn llwyr ein hagweddau amgylcheddol er mwyn annog ymddygiad mwy gwyrdd.”
Ar fater clytiau go-iawn, dywedodd Mr Williams:
“Dyma Wythnos Clytiau Go-Iawn, ac yn wir, hynny dynnodd fy sylw i at y mater hwn. Yn gynharach eleni, ymwelais â chwmni bach yn f’etholaeth o’r enw Babykind. Cefais argraff ffafriol iawn o’u mentergarwch, eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd dros hybu cynaladwyedd amgylcheddol.
“Mae clytiau ail-ddefnyddiadwy neu rai ‘go-iawn’ yn esiampl wych o leihau gwastraff yn ymarferol, ac y mae’n rhywbeth i’w hybu. Mae manteision amlwg, gan y bydd llai o wastraff yn mynd i dirlenwi, ac wrth gwrs, mae’n arbed cryn dipyn o arian i rieni ac i awdurdodau lleol.”