Rhaid i Lywodraeth Cymru gael y gair olaf am ddefnyddio adnoddau dwr Cymru
14/06/2022
Mynnwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi heddiw (Mawrth) na ddylai llywodraeth y DG wneud unrhyw gynlluniau strategol i ategu cyflenwadau dŵr i ateb anghenion trefi Lloegr, ac ardal Llundain yn arbennig, heb yn gyntaf ddod i gytundeb ar y mater gyda Llywodraeth Cymru.
Gofynnodd yr Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru am sicrwydd gan Weinidog y Llywodraeth yr Arglwydd Taylor yn dilyn sylwadau Maer Llundain Boris Johnson, fel y crybwyllwyd yn y Daily Telegraph, lle dadleuodd y dylai dŵr i Lundain ddod o Gymru trwy gyfrwng rhwydwaith o gamlesi ac afonydd.
Ar hyn o bryd, mae cymal yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwahardd y Cynulliad Cenedlaethol rhag trafod darpariaeth dŵr i Loegr – pwnc y tynnodd y Blaid sylw ato gyntaf flynyddoedd yn ôl.
Meddai'r Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru:
“Bu pwnc llosg boddi cymoedd Cymru i roi cyflenewadau dŵr i ddinasoedd Lloegr yn bwnc llosg yn y gorffennol, yn enwedig o ran cynllun Argae Tryweryn hanner canrif yn ôl.
“Disgwyliad pobl Cymru yw mai'r Cynulliad Cenedlaethol ddylai gael y gair olaf ar ddefnydd strategol adnoddau dŵr Cymru, ac na ddylai cymunedau Cymru fyth gael eu boddi eto yn groes i ewyllys y trigolion lleol a chynrychiolwyr etholedig Cymru.”
Dywedodd yr Arglwydd Taylor yn Nhŷ'r Arglwyddi nad oedd ganddo wybodaeth fanwl am y cynigion a wnaed gan Faer Llundain.