RSS NEWYDDION

Arweinydd y Blaid yn ymateb i Ddatganiad Ariannol llywodraeth Cymru

21/06/2022

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i’r datganiad ariannol a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru trwy hawlio nad oedd yn ymdrin ag anghenion economaidd Cymru. Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC tra bod Plaid Cymru yn croesawu symud safbwynt Llafur ar elfennau o ddatganoli treth, fod cryn ffordd i fynd cyn i Lafur fod cystal yn eu huchelgais ag uchelgais Alex Salmond ar gyfer yr Alban, ac mai perygl agwedd Carwyn Jones yw y caiff Cymru ei gadael ar ôl.

Dywedodd AC Ynys Môn, ar feysydd economaidd allweddol megis treth gorfforaeth, y methodd Carwyn Jones â rhoi cyfeiriad clir am safbwynt y llywodraeth. Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC fod ansicrwydd agwedd Llafur yn golygu fod Cymru mewn perygl o golli hyder y gymuned fusnes, a’i bod yn hanfodol i lywodraeth Cymru gynnig cynigion pendant wrth drafod y modd mae Cymru’n cael ei chyllido gyda llywodraeth y DG.

Meddai Ieuan Wyn Jones AC:

"Mae’n gam yn y cyfeiriad iawn fod Carwyn Jones wedi derbyn safbwynt Plaid Cymru sef bod angen i ni symud tuag at fformiwla gyllido seiliedig ar anghenion Cymru. Fodd bynnag, mae Llafur yn San Steffan yn bendant yn erbyn unrhyw ddiwygio. Y cwestiwn yw, a fedr Carwyn Jones gyflwyno hyn, o gofio bod ei arweinwyr ef yn San Steffan, yn enwedig canghellor yr wrthblaid Ed Balls, yn gwrthwynebu’n ffyrnig i Gymru gael ei chyfran deg? 

"Rwyf wedi annog llywodraeth Cymru i dderbyn yr angen i dorri i lawr ar yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion Comisiwn Holtham. Ers yr etholiad ym mis Mai, mae’r Alban wedi mynnu mwy ac ni fedrwn ganiatáu i Gymru gael ei gadael ar ôl. Fedrwn ni ddim bod yn berthynas tlawd i weddill economïau’r DG.

"Dywed y Prif Weinidog ei fod yn credu bod yr hyn sy’n ddigon da i’r Alban yn ddigon da i Gymru, ac eto, mae’n gwrthod i Gymru gael yr un lefel o ddatganoli cyllidol. Mae agwedd bresennol y llywodraeth at feysydd fel y dreth gorfforaeth yn ymddangos yn ddryslyd iawn. Nid yw dweud y dylai Cymru gael yr arfau cyllidol i wella ei heconomi, ond na fydd ei llywodraeth yn dadlau’r achos dros eu datganoli, yn ennyn hyder o gwbl.

"Yr hyn sy’n bwysig yn awr yw i lywodraeth Cymru ddechrau cymryd safbwynt pendant am yr hyn maent am gyflawni."