Ein gweledigaeth am well cymdeithas

Beth yw gweledigaeth y Blaid am gymdeithas deg a chyfartal?

Yn anffodus, mae llawer o'r grymoedd ariannol all wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru heb fod ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, does yr un rhan o'r system dreth na budd-daliadau wedi ei datganoli, ac nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol y grym hyd yn oed i godi ei arian ei hun. Fodd bynnag, mae'r Blaid yn cydnabod fod parhad tlodi ac anghydraddoldeb yn ein cymdeithas yn brifo pawb yn y tymor hir, a bod yn rhaid i ni weithio ynghyd fel cenedl i godi safonau byw. Fe wyddom, mewn Cymru deg a ffyniannus, fod gan bawb yr hawl i swydd ddechau, i dderbyn cefnogaeth pan fo pethau'n galed, ac i fwynhau ymddeoliad gydag urddas. Credwn mai dyletswydd y cyfoethocaf mewn cymdeithas yw helpu i ofalu am y rhai mwyaf bregus.

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu diwygiadau i'r drefn les sydd yn cysylltu budd-daliadau â gwaith ac sy'n bygwth dwyn budd-daliadau oddi ar y sawl na fedrant ateb galwadau annheg ac afrealistig y llywodraeth. Cred y Blaid mai'r cyfan a wnaiff y cynigion hyn yw creu cylch cas o bobl sy'n byw mewn tlodi mewn gwaith ac allan o waith.

Bydd Plaid Cymru mewn llywodraeth yn gwneud dileu tlodi plant yn brif flaenoriaeth. Byddwn yn pwyso am symud ymaith oddi wrth brawf modd cymhleth a drud am fudd-daliadau sy'n ymwneud â phlant. Mae tlodi pensiynwyr hefyd yn endemig, gyda llawer yn wynebu'r dewis gwarthus o fwyta pryd neu wresogi eu cartrefi. Mae darparu pensiwn parchus yn rhan o'r ateb i'r broblem hon. Mae llawer o'r pensiynwyr mwyaf oedrannus heb hawlio credyd pensiwn o gwbl, gan fod dan y camargraff mai budd-dal, nid hawl, ydyw. Am nad yw deddfwriaeth ar bensiynau wedi ei ddatganoli, bydd y Blaid yn hytrach yn parhau i ymgyrchu am gyflwyno pensiwn byw yn ystod cyfnod y senedd nesaf i'r sawl sydd yn 80 oed ac yn henach. Yn y tymor hwy, pan fydd cyflwr cyllid cyhoeddus yn caniatau, buasem yn gostwng yr oedran cymhwyso.

Bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud yn siwr y cedwir dileu tlodi tanwydd yn uchel ar agenda gwleidyddol y dyfodol, gan ddwyn mwy o bwysau ar y cwmniau ynni i gynnig bargen deg i'w cwsmeriaid ac edrych ar yr un pryd i ddatblygu cynlluniau gan y llywodraeth i hybu effeithiolrwydd ynni. Mae'r Blaid mewn llywodraeth eisoes wedi lansio cynllun 'Arbed' a ddaw â gwerth tua £1bn o welliannau effeithlonrwydd ynni i dai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig dros y ddegawd nesaf a byddwn am ddatblygu'r cynlluniau hyn ymhellach yn y dyfodol. Erbyn 2012 bydd y cynllun wedi darparu gwerth £30m o welliannau ac erbyn 2018 bydd y cynllun yn agos at gyflwyno gwerth bron i biliwn o bunnoedd o welliannau. Credwn y gwnaiff hyn gyfraniad enfawr at gyrraedd y targedau uchelgeisiol a osodwyd gan lywodraeth Cymru iddi hi'i hun yn y maes hwn.

Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfraniad amhrisiadwy a wnaeth mewnfudwyr i Gymru. Mae ein cenedlaetholdeb sifig yn dathlu goddefgarwch, cyd-ddeall a gwahaniaeth. Yn yr un modd, rydym yn cydnabod y manteision a allai ddeillio o well cydweithredu o ran lloches a mudo ar lefel yr UE, a'r rôl bwysig y gallai Ewrop chwarae i helpu cymhathu mudwyr newydd, gan gynnwys yn ieithoedd y cenhedloedd diwladwriaeth.

Yr ydym yn condemnio'r sgorio pwyntiau sy'n cael ei ddefnyddio gan y pleidiau eraill a'r ymgreinio i ragfarnau senoffobaidd di-sail yn y ddadl ar fewnfudo. Yr ydym yn gwrthwynebu system bwyntiau, gan y gwyddom na fyddai'n ystyried o gwbl y gofynion sgiliau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi hawliau ceiswyr lloches i weithio yng Nghymru tra'u bod yn aros am benderfyniadau i gael eu gwneud ynghylch eu statws, a galwn am gyflymu'r system loches ddiangen o gymhleth. Condemniwn yr arfer o gartrefu ceiswyr lloches sydd newydd gyrraedd, yn enwedig plant, mewn canolfannau "cadw" neu "symud" fel cosb greulon, a byddwn yn parhau i lobio llywodraeth San Steffan i sicrhau eu bod yn cadw at eu haddewid i gau'r canolfannau hyn.